Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 31 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llanllyfni''' yw un o blwyfi [[Uwchgwyrfai]]. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: [[Pen-y-groes]] (prif bentref [[Dyffryn Nantlle]]), [[Tal-y-sarn]], [[Tanr'allt]], [[Nebo]] a [[Nasareth]]. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref [[Nantlle]].
'''Llanllyfni''' yw un o blwyfi [[Uwchgwyrfai]]. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau [[Afon Llyfni]] i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: [[Pen-y-groes]] (prif bentref [[Dyffryn Nantlle]]), [[Tal-y-sarn]], [[Tan'rallt]], [[Nebo]] a [[Nasareth]]. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref [[Nantlle]] a oedd gynt yn rhan o blwyf [[Llandwrog]].
 
Roedd Llanllyfni hefyd yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion Cymreig ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Gweler manylion o dan [[Llanllyfni (trefgordd)]].
 
Mewn dyddiau diweddarach, rhannwyd y plwyf yn ddwy drefgordd: [[Eithinog (trefgordd)|Eithinog]] a [[Nantlle (trefgordd)|Nantlle]] neu Nanlle.  


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf [[Llandwrog]] i'r gogledd, a phlwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gorllewin a'r de. Mae afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a [[Pont-y-cim|Phont-y-Cim]]. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.
Nid oes unrhyw ran o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - hwn yw'r unig un o blwyfi Uwchgwyrfai sydd heb ddarn o arfordir. Mae plwyf [[Llandwrog]] i'r gogledd, a phlwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gorllewin a'r de. Mae [[Afon Llyfni]]'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a [[Pont-y-Cim|Phont-y-Cim]]. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dulyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hefyd yn eiddo i blwyf Llanllyfni.
 
Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffin ger [[Pontlyfni]] yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur dywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynnod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau [[Cwm Silyn]] a [[Cwm Dulyn|Chwm Dulyn]]. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.


Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger [[Pontlyfni]] yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau [[Cwm Silyn]] a [[Cwm Dulyn|Cwm Dulyn]]. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.
Roedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.  


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Mae hen [[Eglwys Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.
Mae hen [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth a oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill o'r plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.


Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.
Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.


Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o [[Arfon]] ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.
Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o [[Arfon]] ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.


Ei Gŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu [[Ffair Llanllyfni]]) yn flynyddol. Mae [[Ffynnon Rhedyw]] gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.
Ei Ŵyl Mabsant yw 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu [[Ffair Llanllyfni]]) yn flynyddol. Mae [[Ffynnon Rhedyw]] gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.


Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan gychwyn am 7 o'r gloch.
Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth [[Plygain Llanllyfni|Plygain]] ar fore dydd Nadolig, gan ddechrau am 7 o'r gloch.


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twistleton]] a briododd ferch oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]].
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. [[Lleuar Fawr]] efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twisleton]] a briododd ferch a oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]].


Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:
Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:
* [[Robert Williams Parry]], y bardd
* [[Robert Williams Parry]], bardd a darlithydd
* Dr [[R. Alun Roberts]], academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol
* Dr [[R. Alun Roberts]], academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol
* [[Mathonwy Hughes]], y bardd. y llenor ac is-olygydd y Faner
* [[Mathonwy Hughes]], bardd, llenor ac is-olygydd Y Faner
* [[Gwilym R. Jones]], y bardd, y llenor a golygydd y Faner
* [[Gwilym R. Jones]], bardd, llenor a golygydd Y Faner
* [[R. Silyn Roberts]], y bardd
* [[R. Silyn Roberts]], bardd, llenor, gweinidog ac arloeswr a threfnydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA)
* [[O. Llew Owain]], newyddiadurwr, llenor a cherddor
* [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]] 1869-1930, cerddor
* [[Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy)]], canwr a storiwr  
* [[Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy)]], canwr a storiwr  
* [[J. Llywelyn Roberts]], y bardd
* [[John Llywelyn Roberts]], bardd ac undebwr
* [[Tom Hughes]], y bardd
* [[William John Davies (Glan Llyfnwy)]], bardd a gweinidog
* [[W.J. Davies]], chwarelwr, actor, nofelydd a siaradwr cyhoeddus huawdl
* [[William John Davies (ymgymerwr llechi)|W.J. Davies]], (Wil John Fred), chwarelwr, actor, nofelydd a siaradwr cyhoeddus huawdl
* [[Morgan W. Griffith]], y pregethwr amlwg
* [[Morgan W. Griffith]], pregethwr amlwg a chymeriad nodedig
* [[Idwal Jones]], pregethwr, storiwr a sgriptiwr poblogaidd
* [[Idwal Jones]], pregethwr, storiwr a sgriptiwr poblogaidd
* [[Alwyn Thomas]], y storiwr a'r gweinidog
* [[Alwyn Thomas]], storiwr a gweinidog
* [[Ffowc Williams]], y telynegwr a'r sonedwr a'r gweinidog
* [[Ffowc Williams]], telynegwr, sonedwr a gweinidog
* [[Mary King Sarah]], y gantores
* [[Mary King Sarah]], cantores nodedig
* [[Cledwyn Jones]], yr athro a'r canwr
* [[Cledwyn Jones]], athro a chanwr - un o Driawd y Coleg
* Yr adlonwyr [[Bryn Fôn a Cefin Roberts]]
* [[Bryn Fôn]] a [[Cefin Roberts]], cantorion, actorion a pherfformwyr
* [[Betty Williams, AS]]
* [[Betty Williams]], gwleidydd a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Aberconwy
* [[Huw Lloyd Edwards]], dramodydd, athro a darlithydd
* [[Tristian Evans]], pianydd clasurol
* [[Richard Garnons]], perchennog chwareli
* [[John Roberts, Llangwm]], pregethwr, gweinidog ac athro a fagwyd yn y Ffridd Baladeulyn
* [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf]], "yr angel o Glynnog" - gweinidog ac un o bregethwyr amlycaf ei oes, a brawd John Roberts uchod. 


==Y pentref==
==Y pentref==
Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond [[Capel Ebeneser (B)]]. Ar un adeg, bu crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandimanaidd (enwad bach Albanaidd) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.
Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond [[Capel Ebeneser (B), Llanllyfni|capel Ebeneser]] y Bedyddwyr. Ar un adeg, bu Crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd Crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd (enwad bach, Albanaidd yn ei hanfod) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.


Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:   
Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans, a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:   


"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."
"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."


"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentynod i: ''Siop Uchaf, Siop Liverpool House'' a ''Siop London House'' (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), ''Siop Rhedyw'' (blawdiau), ''Y Llythyrdy'' (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), ''Siop Manchester House'' (siop ddillad fawr), ''Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House'' (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), ''Siop Gruffudd Jones y Cigydd'' (fe gododd dy ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a ''Siop Robert Williams y Cigydd'' (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.  
"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: ''Siop Uchaf, Siop Liverpool House'' a ''Siop London House'' (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), ''Siop Rhedyw'' (blawdiau), ''Y Llythyrdy'' (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), ''Siop Manchester House'' (siop ddillad fawr), ''Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House'' (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), ''Siop Gruffudd Jones y Cigydd'' (fe gododd ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a ''Siop Robert Williams y Cigydd'' (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.  


"Cofiaf bum ty tafarn yn y pentref, sef ''Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head'' ''a Thafarn y Coecia'' (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."
"Cofiaf bum [[Tafarndai Llanllyfni|tŷ tafarn]] yn y pentref, sef ''[[Tafarn Barmouth|Barmouth Tavern]], [[Tafarn y Ffort|Fort Tavern]], [[Tafarn y Cwari|Quarrymen's Arms]], [[Tafarn y King's Head|King's Head]]'' ''a [[Tafarn Coed-cae-du|Thafarn y Coecia]]'' (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."


==Addysg==
==Addysg==
Llinell 62: Llinell 75:
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Ffiniau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:38, 5 Hydref 2023

Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau Afon Llyfni i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tan'rallt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle a oedd gynt yn rhan o blwyf Llandwrog.

Roedd Llanllyfni hefyd yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion Cymreig ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Gweler manylion o dan Llanllyfni (trefgordd).

Mewn dyddiau diweddarach, rhannwyd y plwyf yn ddwy drefgordd: Eithinog a Nantlle neu Nanlle.

Ffiniau a thirwedd

Nid oes unrhyw ran o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - hwn yw'r unig un o blwyfi Uwchgwyrfai sydd heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog Fawr i'r gorllewin a'r de. Mae Afon Llyfni'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dulyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hefyd yn eiddo i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffin ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur dywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynnod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Chwm Dulyn. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth a oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill o'r plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei Ŵyl Mabsant yw 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan ddechrau am 7 o'r gloch.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oedd plasty mawr yn y plwyf, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twisleton a briododd ferch a oedd yn perthyn i deulu Glynn.

Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:

Y pentref

Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond capel Ebeneser y Bedyddwyr. Ar un adeg, bu Crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd Crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd (enwad bach, Albanaidd yn ei hanfod) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.

Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans, a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:

"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."

"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: Siop Uchaf, Siop Liverpool House a Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.

"Cofiaf bum tŷ tafarn yn y pentref, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."

Addysg

Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur), yr ysgolfeistr :

Dec. 20th 1872: "...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6." [1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5