Betty Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwleidydd gyda'r Blaid Lafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 31.7.1944 ym Mangor). Cafodd ei magu yn Nhal-y-sarn a mynychodd Ysgol Dyffryn Nantlle a'r Coleg Normal ym Mangor. Bu'n Aelod Senedd y Deyrnas Gyfunol dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Cyn cael ei hethol i'r senedd dros Gonwy, bu'n wleidydd gweithgar yn ei bro enedigol.

Bywyd Personol

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, gan symud ymlaen i'r Coleg Normal, Bangor. Derbyniodd radd BA o Brifysgol Cymru, ac erbyn hyn mae'n gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Bangor. Bu'n wraig i'r diweddar Evan Williams ac mae ganddynt ddau fab.

Gyrfa Wleidyddol

Ym 1967 fe'i hetholwyd yn gadeirydd Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Gynghorydd Ardal a Chynghorydd Sir dros Dal-y-sarn, ac yna yn Faer Arfon ym 1990. Bu'n aflwyddiannus yn ei hymgais i ennill etholaethau Caernarfon ym 1983, a Chonwy ym 1987 a 1992. Fe'i dewiswyd eto gan y Blaid Lafur i sefyll yn etholaeth Conwy ym 1995 ar restr yn cynnwys merched yn unig. Er y datganwyd fod y dull hwn o ddewis ymgeiswyr yn anghyfreithlon, cadwodd yr hawl i ymladd am y sedd. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd ei hethol gyda mwyafrif o 1,596.

Cydnabuwyd Williams fel aelod teyrngar o'r blaid ac i Brif Weinidog y DG ar y pryd, Gordon Brown.

Ym Medi 2008, cyhoeddodd na fyddai'n sefyll yn yr etholiad nesaf yn 2010 er mwyn ei galluogi i newid cydbwysedd ei gwaith.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Betty Williams, [1], cyrchwyd 20.2.2022