Tafarn Barmouth
Tafarn Barmouth oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref Llanllyfni. Safai ar gornel y lôn sydd yn arwain heibio i ble mae’r ysgol gynradd heddiw, a chyferbyn â Chapel Salem. Dichon mai gwasanaethu rhan uchaf y pentref a’r tyddynnod gerllaw ydoedd.
Roedd y dafarn yn agored erbyn 1851 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad. Yr adeg honno, Mary Edwards, 43 oed, oedd yn cadw’r dafarn, a Mary Edwards arall, pymtheg mlynedd yn iau yno hefyd – rhaid tybio mai mam a merch oedd y ddwy hyn. Am ryw reswm, nid yw’r Barmouth yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871 ond, erbyn 1881, Hugh Williams, saer maen, oedd yn cadw’r dafarn fel ffordd o ennill mwy o arian. Erbyn y 1890au, roedd plaid Dirwest yn gryf trwy'r fro, a gwrthwynebwyd adnewyddu trwydded y dafarn ym 1892 er i'r ynadon yn y Llys Drwyddedu ei chaniatáu (o un pleidlais yn unig), ac fe arhosodd ar agor.[1] Ymhen naw mlynedd, Owen Hughes, chwarelwr 26 oed, oedd y landlord, ac ym 1901, y landlord oedd John Roberts, masnachwr glo 34 oed. [2]
Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, ni soniwyd am Dafarn Barmouth, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef Tafarn y King's Head, y Quarryman’s Arms a Thafarn y Ffort.[3] Mae’n amlwg felly fod y dafarn wedi ei chau am y tro olaf rywbryd rhwng 1901 a 1909, a hynny'n ôl pob tebyg ym 1903 pan fu'r ynadon yn gwrthod adnewyddu sawl trwydded yn yr ardal. Erbyn hynny roedd y Barmouth wedi ei phrynu gan gwmni Greenall Whitley.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma