Tafarn y King's Head

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

'Roedd Tafarn y King's Head yn un o bedair tafarn ar y lôn bost sydd yn rhedeg trwy bentref Llanllyfni, a’r gyntaf i rywun ei chyrraedd wrth deithio o gyfeiriad Pen-y-groes. Safai ger Melin Llanllyfni gyferbyn â’r eglwys.

'Roedd y dafarn yn agored erbyn 1841 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad cyntaf, er ei bod yn hŷn o lawer yn ôl pob tebyg. Ym 1841, John Griffiths, gŵr 67 oed oedd y tafarnwr, ac yr oedd yn dal yno ym 1851. Erbyn 1861, fodd bynnag, dyn iau, Griffith Jones, 46 oed, ac a weithiai’n bennaf fel gwerthwr gwlanenni (“woollen draper”) oedd yn cadw’r dafarn. Am ryw reswm, nid yw’r King’s Head yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871, ond erbyn 1881, Robert Williams, 39 oed, oedd yn cadw’r dafarn fel ei brif swydd. Ym 1891, Robert Williams, chwarelwr 70 oed, oedd yn cadw’r dafarn yn ogystal â gweithio mewn chwarel. Ac yr oedd yno ym 1901, yn 81 oed, ond erbyn hyn ei unig waith oedd fel “ceidwad tŷ tafarn”.[1] Rhaid i rywun ddod i’r casgliad, o ystyried yr uchod, nad oedd y dafarn yn cynnig bywoliaeth fras i’r sawl oedd yn ei chadw, a bu’n ffynhonnell incwm ychwanegol neu weithiau’n ffordd o ennill ychydig i rai a oedd yn rhy hen i weithio’n gorfforol galed.

Ceir darlun o’r dafarn ym 1909, pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai. Cynhwysodd y ‘’North Wales Express’’ adroddiad fis Mawrth y flwyddyn honno am drafodaethau’r llys trwyddedu, a hynny ar adeg pan oedd y gwrthwynebiad i dafarndai ar ei gryfaf. Yn achos y “King’s Head”, un o’r tair tafarn a oedd yn dal yn agored yn y pentref, adroddwyd fod “Yr Arolygwr Griffith wedi dweud mai dyna oedd yr unig dafarn rydd yn y gymdogaeth. Dywedodd Mr Roberts, [twrnai’r tafarnwr] yr adwaenid y tŷ fel tŷ’r amaethwyr. Gwnaed llawer o fusnes yno ar ddyddiau ffair. Galwyd ar ffarmwr, a oedd hefyd yn warden yr eglwys, i dystio fod y tŷ’n lle cyfleus ar gyfer delwyr gwartheg ac eraill.” O ganlyniad i'r trafodaethau, rhoddwyd trwydded newydd i’r King’s Head - a hefyd i’r Quarryman's Arms, er i drwydded Tafarn y Ffort gael ei diddymu.[2]

Nid oes sôn am y King’s Head yng Nghyfrifiad 1911 ond ar fap Ordnans, a wnaed ym 1914, fe ddangosir y lle fel tafarn o hyd – er efallai mai hen wybodaeth sydd yn ymddangos ar y map.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1911
  2. ’’North Wales Express’’, 12.3.1909, t.3