Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Uwchgwyrfai (neu Arfon Uwch-gwyrfai) yn un o gymydau (neu israniadau gweinyddol) hynafol Sir Gaernarfon (a thywysogaeth Gwynedd cyn hynny) er nad yw'n bodoli fel uned weinyddol bellach.

Ystyr yr enw yw 'y tir yr ochr draw i'r afon Gwyrfai', a hynny oherwydd iddo fod yr ochr draw o safbwynt y llys yn Abergwyngregyn. Y rhan o dir oedd yn agosach at y llys oedd Isgwyrfai, sef y plwyfi i'r gorllewin o Landygái a Phentir, sef Llanddeiniolen, Llanfair-isgaer, Llanberis, Llanrug, Llanbeblig, Llanfaglan a Betws Garmon.

Ffiniau

Hyd 1895, roedd i'r cwmwd bum plwyf cyflawn, sef Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Ynghyd â chwmwd Is-gwyrfai a thiroedd yr Esgob, sef Maenol Bangor, fe ffurfiwyd Cantref Arfon, sef un o'r prif ranbarthau gweinyddol o dan y Tywysogion. Ym 1895, bu peth newid ar ffiniau'r sir, a rhoddwyd rhan o Uwchgwyrfai i blwyf Betws Garmon.[1]

Yn wreiddiol fe ddilynai ffin pum plwyf y cwmwd lannau de-orllewinol yr afon Gwyrfai o'r môr hyd ei tharddiad yn Llyn y Gader i'r de o Ryd-ddu, gan gynnwys rhan orllewinol y pentref hwnnw. Fel y dywedwyd, fe gollwyd tir sylweddol i blwyf Betws Garmon ym 1888, sef yr holl dir ym mhlwyf Llanwnda i'r dwyrain o grib y mynyddoedd ac ar hyd yr Afon Gwyrfai rhwng Waun-fawr a Rhyd-ddu.

Ym 1974, newidwyd yr enw swyddogol ar blwyfi sifil, sef 'plwyf', a reolwyd gan gyngor plwyf, i 'cymuned' o dan gynghorau cymuned, ond ar y pryd cadwyd at yr hen ffiniau plwyfi. Yn ddiweddarach, ychydig cyn diwedd y 20g, collodd cymuned Llanwnda dir pellach, pan symudwyd ward Bontnewydd (y darn rhwng Ffrwd Cae Du a phont y Bontnewydd) i gymuned newydd a ffurfiwyd y pryd hynny, sef cymuned y Bontnewydd. Serch hyn, yn dechnegol, rhan o Uwchgwyrfai yw'r ardaloedd hyn hyd heddiw.

Yr un pryd, o fewn ffiniau Uwchgwyrfai, rhoddwyd y rhan o benrhyn Belan, a oedd gynt yn eiddo i blwyf Llanwnda, i gymuned Llandwrog; ac ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle, ynghyd â pheth tir ar gyrion Pen-y-groes ger Garth Dorwen, i gymuned Llanllyfni.

I'r de a'r gorllewin, gellir dadlau fod y ffiniau hanesyddol y plwyfi wedi aros heb eu newid. Rhed ffin plwyf Llanaelhaearn o'r môr rhwng Trwyn y Gorlech a Thrwyn-y-tâl ar draws Bwlch-yr-Eifl a chopa'r Eifl, cyn croesi ffordd Pistyll ac ymlaen ar draws y tir is hyd Bontygydros ac ymlaen ar hyd yr Afon Erch cyn cyrraedd ffin plwyf Clynnog-fawr ger Melin Goch. O'r fan honno, rhed ffin y cwmwd i lawr ar hyd nant ger Derwin Bach (sydd yng nghwmwd Eifionydd). O'r fan honno mae'r ffin yn codi dros Fynydd Craig Goch ac ar hyd Crib Nantlle yn y man nes gyrraedd ardal Rhyd-ddu. Mae rhai haneswyr y canol oesoedd, fodd bynnag, megis y Dr Colin Gresham, yn cwestiynu a ddylid cyfrif dau o hen drefgorddi plwyf Clynnog-fawr, sef Derwin a Nancall, fel rhan o gwmwd Eifionydd. Gan eu bod wedi eu cynnwys ym mhlwyf Clynnog-fawr ers y canol oesoedd pan sefydlwyd ffiniau'r plwyfi'n bendant am y tro cyntaf, penderfynwyd eu cynnwys yn Uwchgwyrfai at ddibenioin Cof y Cwmwd.

Mae erthyglau yng Nghof y Cwmwd yn cynnwys y rhannau hynny o blwyf Llanwnda a gollwyd i Isgwyrfai.

Hanes fel Uned Weinyddol

Mae'r drefn cymydau a chantrefi'n mynd yn ôl i Oes y Tywysogion ac mae'n glir o Gyfraith Hywel fod y cymydau'n bodoli fel unedau dros fil o flynyddoedd yn ôl, gyda'u llysoedd a'u hynadon, ynghyd â swyddogion eraill, eu hunain. Enghraifft hwyr o hyn oedd Robert Gruffydd, a aeth wedyn yn aelod seneddol dros y sir ym 1545; ym 1536 cyn i'r Ddeddfau Uno ddod i rym, fe oedd beili cwmwd Uwchgwyrfai.

Fe barhaodd y system hon o ran gweinyddu wedi i'r dywysogaeth gynhenid gael ei ddileu gan Frenhinhoedd Lloegr, ond dan y Deddfau Uno (1536 a 1543), ffurfiwyd trefn newydd o weinyddu sifil, gan ddileu olion yr hen drefniadaeth. Sefydlwyd llysoedd ar batrwm Lloegr, gydag ynadon yn gyfrifol am nifer cynyddol o ddyletswyddau sifil, megis cynnal y ffyrdd, gofalu bod y plwyfi'n edrych ar ôl eu tlodion, trwyddedu tafarnau ac ati. Er hwylustod mewn oes pan oedd teithio unrhyw bellter yn faich ar ddyn, rhaid oedd rhannu'r siroedd, a chadwyd at ffiniau'r hen gymydau, er yr oedd tuedd cynyddol i'w galw'n hyndrydau, neu hundreds, yn ôl yr arfer Seisnig. Mae cofnodion Llys Chwarter Sir Gaernarfon, sydd wedi goroesi o 1541, yn llawn o gyfeiriadau at "Uchgor'", sef Uwchgwyrfai. Mae'r enwau cynharaf a geir yn y cofnodion hyn am swyddogion y cwmwd yw Thomas Gruffydd a Huw Lewys, cwnstabliaid y cwmwd a Hywel ap Dafydd ap Llywelyn, beili'r cwmwd ym 1546-7. Nid oedd y swyddi hyn, a lanwyd gan drigolion lleol heb dâl, yn gallu bod yn beryglus: ymosodwyd gyda cleddyf ar un o gwnstabaliaid y cwmwd, Owen Davies, gan nifer o drigolion Clynnog-fawr ym 1553, nes bod dau o'i fysedd bron wedi torri i ffwrdd. Parhaodd cynulliadau o drigolion a mân swyddogion y cymydau hefyd gwrdd mewn 'llysoedd' sifil, dan oruchwyliaeth siryf y sir. Ceir cofnod o un llys ar gyfer Uwchgwyrfai a gynhaliwyd 5 Rhagfyr 1654 yn nhafarn Betws Gwernrhiw.

Defnyddid enw Uwchgwyrfai'n aml i ddynodi rhaniad o'r sir pan oedd angen hyd nes i'r cynghorau dosbarth gael eu ffurfio ym 1894. Yn gynyddol, fe ddisgrifiwyd Uwchgwyrfai (neu Uchgorfai fel y sillafid yr enw'n arferol) fel hundred or division o'r sir, ac yr oedd gan y cwmwd ei uchel gwnstabl ei hun hyd y 19g. Hyd yn oed heddiw, mae Uwchgwyrfai'n cael ei gyfrif yn raniad daearyddol gan Gomisiynwyr y Goron, sydd yn dal i arddel yr enw Comin Uwchgwyrfai am y tir mynydd o gwmpas Moel Smytho a Mynydd Mawr.


Ffynonellau cyffredinol

  • Mapiau Ordnans 6" i'r filltir yr ardal I'w cyrchu ar [1]
  • Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (Gomer, 1970), tt.65, 91, 97.
  • Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units, (Gwasg y Brifysgol, 1969), passim.
  • W Ogwen Williams, A Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records, 1541-1558, (Cym. Hanes Sir Gaernarfon, 1956), tt. lxix, 31-2, 124.
  • Stanley Thomas Bindoff, The House of Commons, 1509-1558, Cyf 1, (1982), [[2]] (cyrchwyd 27.11.2017).
  • London Gazette, (1968), t.9648.
  • Colin Gresham, Eifionydd, (Caerdydd, 1973), tt.301-3.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansS/9