Arfon (cantref)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arfon oedd enw'r cantref y mae Uwchgwyrfai yn perthyn iddo. Y cantref oedd rhaniad gweinyddol uchaf Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac fe'i rennid fel arfer yn ddau neu fwy o gymydau. Yr oedd cwmwd Uwchgwyrfai, ynghyd â chwmwd Isgwyrfai a Maenol Bangor (tir yr Esgob, sef plwyfi Bangor a Phentir) yn ffurfio cantref Arfon.

Am gyfnod ar ddechrau'r 20g, fe ddefnyddid yr enw ar etholaeth seneddol a ymestynnai i rannau gwledig gogledd a dwyreiniol Sir Gaernarfon mor bell â Dyffryn Conwy. Rhwng 1974 a 1996, defnyddid yr enw gan Gyngor Dosbarth Arfon a oedd yn awdurdod lleol o dan Cyngor Sir Gwynedd. Erbyn hyn fe'i ystyrir yn raniad gweinyddol Cyngor Gwynedd.