Cyngor Sir Gwynedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyngor Sir Gwynedd oedd y prif awdurdod lleol a reolai Uwchgwyrfai rhwng 1974 a 1996. Cymerwyd yr enw o hen dywysogaeth Gwynedd. Fe'i ffurfiwyd yn fras trwy gyfuno tiriogaeth Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd (heblaw am Edeirnion),Ynys Môn a rhannau o Sir Ddinbych. Roedd pencadlys y sir yng Nghaernarfon. Ad-drefnwyd y siroedd ym 1996, ac uned lai, sef Cyngor Gwynedd, a gymerodd ei le, lle 'roedd Uwchgwyrfai yn y cwestiwn.