Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sir Gaernarfon yw enw'r sir yr oedd tir Uwchgwyrfai'n perthyn iddi o gyfnod goresgyniad y wlad gan y Saeson ym 1284, pan ffurfiwyd siroedd yn unol â'r patrwm Seisnig yng ngogledd Cymru, hyd 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru, gan ffurfio siroedd mwy, ac aeth Sir Gaernarfon i gyd yn rhan o sir newydd, Gwynedd dan Gyngor Sir Gwynedd.

Rheolid y sir gan yr ynadon o 1536 ymlaen trwy'r Llys Chwarter, nes ffurfio Cyngor Sir Gaernarfon ym 1889.