Nancall (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Nancall)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sonnir am Nancall yn hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogion.[1] Yn ddiweddarach, Nancall oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe'i rhoddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog ers canrifoedd fodd bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.

Ffiniau Nancall oedd Afon Call i'r gogledd ac Afon Faig i'r dwyrain a'r de. Cyrhaeddodd gopa Mynydd Craig Goch. Y ffin orllewinol oedd Afon Dwyfach, o'r pwynt lle mae Afon Faig yn aberu i Afon Dwyfach ger Pont Tafarn-faig, gan redeg ar hyd Afon Dwyfach i gyfeiriad y gogledd nes gyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen orsaf reilffordd Pant-glas.[3]

Rhoddwyd y drefgordd i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedyn Aberconwy, ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siartr Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.[4] Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar luest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au. Ym 1562, roedd y trefgordd ym meddiant Coron Lloegr fel rhan o'r hen diroedd eglwysig, ac fe brydleswyd rhan o'r trefgordd i deulu Clenennau yn Eifionydd.[5]

Y mae llythyr tra diddorol yn Y Brython ar gyfer 1861 sydd yn tystio i barhad cysylltiad Nancall â hen hawliau Priory Beddgelert ac Abaty Aberconwy. Meddai'r gohebydd:

Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal.  “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.”  Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon.  Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon.  Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd.  Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri.  Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[6]

Mae'r manylion hyn yn tueddu awgrymu bod Cwrt Beddgelert yn parhau â chysylltiad â Nancall tan oddeutu 1837, sef tua'r adeg pan ddiwygiwyd y system o dalu'r Degwm. Mae'r dyfyniad hefyd yn tueddu awgrymu mai rhan bellaf plwyf Clynnog Fawr oedd lleoliad trefgordd Nancall. Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae'n cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â hen fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed; cafodd hwn brydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, cadwyd at delerau'r brydles am weddill ei thymor.

Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahân hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[7] Parhai brif drigolion Nancall dalu rhai ffioedd i olynwyr Abaty Aberconwy fel tirfeddianwyr hyd oddeutu 1835, gan deithio'n flynyddol i fynychu hen lys maenorol Cwrt Beddgelert.[8]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139
  2. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
  3. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138-9
  4. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4
  5. LlGC, Gweithredoedd Brogyntyn, ETD/1/1
  6. Y Brython, Tachwedd 1861, t.435
  7. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3
  8. Y Brython, Tachwedd 1861, t.435