Nasareth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref bach yw Nasareth ym mhlwyf Llanllyfni. Saif ar lethrau'r mynydd i'r dwyrain o briffordd yr A487 ar ochr y lôn gefn (sef yr hen ffordd gul a ddefnyddid cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg) ar dir a elwid gynt yn Fynydd Llanllyfni. Mae wedi cael ei enw oherwydd y capel (Capel Nasareth (A)) a godwyd i wasanaethu'r egin gymuned pan ddechreuodd chwarelwyr godi tai ar y comin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma