Cefin Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Magwyd Cefin Roberts (ganwyd 1953) yn Llanllyfni. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo.[1][2]

Fe sefydlodd Cefin y pedwarawd poblogaidd Hapnod gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Darlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au.[3]

Sefydlodd Ysgol Glanaethwy ym 1990 ym Mharc Menai, Bangor, yr ysgol berfformio gyntaf o'i bath yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi llyfr o hanes yr ysgol hon. Aeth â'r côr o'r ysgol cyn belled â rownd derfynol y sioe deledu Britain's Got Talent, a cholli yn rownd derfynol Last Choir Standing i gôr Only Men Aloud. Mae wedi ennill gyda chorau o'r ysgol lawer tro yng nghystadlaethau eisteddfodau cenedlaethol, eisteddfodau cenedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Ymunodd â chriw cynhyrchu Rownd a Rownd ym 1995 ac roedd yn bennaf cyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama ym 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid.[2] Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010.[4]

Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau am ei nofel Brwydr y Bradwr.[2][5]


Cyfeiriadau

  1. Rhestr Awduron - Llenyddiaeth Cymru; Adalwyd 2015-12-16
  2. 2.0 2.1 2.2 Y Fedal Ryddiaith i Cefin Roberts, Newyddion BBC; Adalwyd 2015-12-17
  3. Ysgol Glanaethwy - Cefin & Rhian Roberts; Adalwyd 2015-12-16
  4. Cefin Roberts yn gadael y Theatr Genedlaethol, Golwg360; Adalwyd 2015-12-16
  5. Erthygl Wicipedia ar Cefin Roberts, [1]