Nantlle (trefgordd)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Roedd Nantlle yn enw ar un o drefgorddau plwyf Llanllyfni. Gan mai Eithinog oedd y drefgordd arall yn y plwyf,[1] mae'n bur sicr mai ardaloedd Mynydd Llanllyfni a Dyffryn Nantlle (i'r dwyrain o eglwys y plwyf) yn fras oedd y tiroedd o fewn ffiniau trefgordd Nantlle. Mae'n bosibl mai "Llanllyfni" oedd enw'r drefgordd yn y Canol Oesodd, gan nad oes sôn am drefgordd Nantlle yn nogfen Record of Caernarvon[2] ond rhestrir manylion am drefgorddau Llanllyfni ac Eithinog, er nad oes sicrwydd o hyn ar gael.