Lleuar Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hen annedd nodedig yw Lleuar, neu Lleuar Fawr nid nepell o Lanllyfni er ei fod ym mlwyf Clynnog Fawr.[1] Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig, Glenda Carr, y gall fod yn amrywiad ar Lleufer, sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.[2]

Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef Lleuar Fawr (adeilad rhestredig) a Lleuar Bach. Roedd ar un cyfnod efallai yn rhan o ystad y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac yn rhan o hen diroedd trefgordd Pennarth. Glynn oedd cyfenw'r teulu'n wreiddiol, nes i'r etifeddes briodi â milwr o Sais o'r enw George Twisleton, a dyna fu'r cyfenw wedyn o 1660 hyd ddiwedd y teulu yn yr ardal.[3] Mae erthygl ar gael yn nodi manylion am y Teulu Lleuar.

Mae cofeb i William Glynn (neu Glynne), a fu farw ym 1609, yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[4]

Yn ystod yr 16-17g, bu tiroedd eang yn perthyn i Lleuar, gan ffurfio ystad sylweddol. Ceir manylion mewn erthygl ar wahân.

Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten George Twisleton, ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben William Ridsdale) ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen ni chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepheard yn benodol.[5] Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan Ystad Glynllifon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.
  2. Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011)
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.270.
  4. Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872); Comisiwn Henebion Cymru Caernarvonshire:Volume II, Central, (Llundain, 1960)
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2