William Ridsdale

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd gan Y Cadben William Ridsdale, yn wreiddiol o Ripon yn Swydd Efrog, ddiddordeb yn Ystad Lleuar Fawr, cyn i Ystad Glynllifon ei phrynu a'i rhyddhau yn y man o'r dyledion a oedd wedi cronni arni. Daeth yr etifeddiaeth hon i Ridsdale ar farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, George Twisleton (iau), drwy ei wraig Mary Twisleton. Roedd Ridsdale yn filwr proffesiynol ac fe'i lladdwyd ym mrwydr Dettingen ym 1743.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig [1]