Pont-y-Cim

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont hynafol, ger Pontlyfni yw Pont-y-Cim.

Cafodd ei chodi yn 1612, a chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Mae llythyr oddi wrthi at yr ynadon wedi goroesi ymysg papurau'r Llys Chwarter. Roedd yn cynnig talu am bont yn lle'r rhyd oedd yno cyn hynny. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn Afon Llyfnwy yno ar ei ffordd i'w gweld. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a'r flwyddyn 1612.

Ceir sôn amdani wedyn ym 1654, pan oedd angen gwario arni i'w thrwsio.[1]

Yn 1750, gorchmynnodd y Llys Chwarter yng Nghaernarfon iddi gael ei hadnewyddu a’i lledu i sicrhau fod ceffyl a throl yn gallu mynd trosti. Erbyn 1776, roedd hi'n annigonol a phenderfynwyd codi pont newydd sbon, sef Pont Lyfni yn nes at y môr.[2]

Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth.[3]

Cyfeiriadau

.

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1653-4/93
  2. Archifdy Caernarfon XPlansB/158
  3. Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings [1]; Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol [2]