Morgan W. Griffith

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brodor o bentref Tal-y-sarn oedd y Parch. Morgan W. Griffith (1873-1965). Cafodd enw fel pregethwr nodedig. Mab ydoedd i Hugh ac Alice Griffith, Bryncelyn. Roedd ei dad yn chwarelwr yn Chwarel Dorothea ac ar ôl gadael yr ysgol aeth Morgan i’r un chwarel i weithio. Merch fferm oedd ei fam, a gweithiodd honno fel cigydd yn y pentref am flynyddoedd lawer.

Ar ôl iddo ddechrau pregethu, aeth i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog ac wedyn i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn y Gymraeg ym 1901. Cafodd ei ordeinio ym 1904 a derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapel Saesneg y Methodistiaid Calfinaidd yn Y Bermo a chapel Saesneg Fairbourne. Ym 1909 symudodd i gapeli’r Fachwen a Dinorwig, ac ym 1913 aeth i Lundain fel gweinidog Capel Wilton Square. Symudodd yn ôl i Gymru wedyn ac i Bwllheli, lle bu’n weinidog ar Gapel Penmount o 1921 hyd 1960.

Bu farw’n 92 oed ym 1965. Mae ‘’Hanes Eglwys Penmount Pwllheli’’ yn ei ddisgrifio fel “cawr o ddyn yn gorfforol ac mewn llawer ystyr arall, yn un o bersonoliaethau mawr Cymru”.

Brodyr iddo oedd y Parchn. H.E. Griffith, Croesoswallt ac O.J. Griffith, Dolwyddelan – y ddau, fel Morgan Griffith, wedi cychwyn fel chwarelwyr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan ‘’Merched Chwarel’’, [1], cyrchwyd 28.2.2022