Ysgol Ragbaratoawl Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd gwreiddiau Ysgol Ragbaratoawl Clynnog yn y sefydliad a elwid ar lafar gwlad fel Ysgol Eben Fardd. Wedi i ysgolion mwy ffurfiol gael eu sefydlu yn ystod canol y 19g., newidwyd y pwyslais a daeth yr ysgol i fod yn lle ar gyfer paratoi ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth. Enw arall, anffurfiol, ar y sefydliad oedd "Coleg Clynnog".

Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal Ebenezer Thomas (Eben Fardd) oedd y Parch David Jones (Dewi Arfon). Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol ar ei newydd wedd, a Dewi Arfon wedi cymryd yr awenau yn ei le, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis Mathonwy Hughes.[1]

Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys (Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.[2]

Caewyd yr ysgol ragbaratoawl yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.

Mae atgofion am yr addysg a geid yng Ngholeg Clynnog ac am fywyd myfyrwyr yno yn ystod y 1920au, a ysgrifennwyd gan Percy Ogwen Jones, un o'r myfyrwyr, ar gael mewn erthygl ar wahân, sef Atgofion Percy Ogwen Jones am Goleg Clynnog. Am hanes cynharach y sefydliad, gweler yr erthygl ar Ysgol Eben Fardd.

Cyfeiriadau

  1. Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021
  2. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94