R. Alun Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts (1894-1969).

Fe'i ganwyd yn Glan Gors, Tan'rallt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.

Graddiodd â BSc gydag anrhydedd yn 1915, a chwblhaodd PhD yn 1927. Bu'n athro gwyddoniaeth am gyfnod yn Ysgol Botwnnog (1915-1917), ac roedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth o 1917-1919. Roedd yn ymgynghori ar lysieueg ac amaeth iddynt hyd 1921. Cafodd swydd fel darlithydd, ac yna fel pennaeth adran, yn adran amaeth Coleg Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Arolygydd ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig.

Bu hefyd yn Uchel Siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad i faes amaethyddiaeth. Cyhoeddodd Welsh Homespun (1930), gwaith arloesol ar hanes amaethyddol a gwledig Cymru trwy'r oesoedd; Y Tir a’i Gynnyrch (1932), un o gyfres o lyfrau gan Wasg Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer dosbarthiadau oedolion yn bennaf; a Hafodydd Brithion (1947), casgliad o ysgrifau ar yr amgylchedd, bywyd gwledig a byd natur. Cyhoeddwyd hefyd nifer o'i ddarlithoedd ar fywyd gwledig.

Cofnododd galedi bywyd y tyddynnwr/chwarelwr yn Nyffryn Nantlle:

Bywyd caled ac eithaf llym ydoedd. Wedi gloywder eithriadol ar y tir o tua 1850 i 1870 daeth dirwasgiad mawr a barhaodd o 1870 hyd ddechrau'r ganrif hon - yn dechrau gloywi tua blwyddyn y diwygiad yn 1904-5. Mae gennyf un co' arbennig am fy nhad yn gwerthu buwch dew i'r hen William Roberts, Tyddyn Hen, tua thro'r ganrif, ac wedi bargeinio'n galed am y trydydd cynnig yn taro'r fargen am "rôt a thair ffyrling a chwidlin y pwys."  "One sixteenth of a penny" oedd chwidlin, a deall yn ddiweddarach gan Syr Ifor Williams mai llygriad o "whitling" o'r Saesneg oedd y gair, sef y mân lwch yr arferid ei grafu gyda darn o wydr wrth lyfnhau pren, megis bagl ffon, ydoedd. Bargeinio am chwidlin y pwys gan fod yr amser mor enbyd!

Ffynhonellau

  • Williams, Melfyn R. Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts (Lolfa, 1977)
  • Roberts, R. Alun Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1968