Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 46 golygiad yn y canol gan 6 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Llanllyfni''' yw un o blwyfi [[Uwchgwyrfai]]. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau [[Afon Llyfni]] i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: [[Pen-y-groes]] (prif bentref [[Dyffryn Nantlle]]), [[Tal-y-sarn]], [[Tan'rallt]], [[Nebo]] a [[Nasareth]]. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref [[Nantlle]] a oedd gynt yn rhan o blwyf [[Llandwrog]]. | |||
Roedd Llanllyfni hefyd yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion Cymreig ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Gweler manylion o dan [[Llanllyfni (trefgordd)]]. | |||
Mewn dyddiau diweddarach, rhannwyd y plwyf yn ddwy drefgordd: [[Eithinog (trefgordd)|Eithinog]] a [[Nantlle (trefgordd)|Nantlle]] neu Nanlle. | |||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Nid oes unrhyw | Nid oes unrhyw ran o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - hwn yw'r unig un o blwyfi Uwchgwyrfai sydd heb ddarn o arfordir. Mae plwyf [[Llandwrog]] i'r gogledd, a phlwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gorllewin a'r de. Mae [[Afon Llyfni]]'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a [[Pont-y-Cim|Phont-y-Cim]]. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dulyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hefyd yn eiddo i blwyf Llanllyfni. | ||
Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r | Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffin ger [[Pontlyfni]] yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur dywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynnod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau [[Cwm Silyn]] a [[Cwm Dulyn|Chwm Dulyn]]. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol. | ||
Roedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen. | |||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== | ||
Mae hen [[Eglwys Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill | Mae hen [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y plwyf]] wedi ei chysegru yn enw [[Rhedyw Sant]], ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth a oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill o'r plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g. | ||
Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g. | Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g. | ||
Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar | Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o [[Arfon]] ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc. | ||
Ei | Ei Ŵyl Mabsant yw 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu [[Ffair Llanllyfni]]) yn flynyddol. Mae [[Ffynnon Rhedyw]] gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol. | ||
Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth [[Plygain Llanllyfni|Plygain]] ar fore dydd Nadolig, gan ddechrau am 7 o'r gloch. | |||
==Tai pwysig ac enwogion== | ==Tai pwysig ac enwogion== | ||
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr | Nid oedd plasty mawr yn y plwyf, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. [[Lleuar Fawr]] efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twisleton]] a briododd ferch a oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]]. | ||
Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd: | Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae: | ||
* [[Robert Williams Parry]], | * [[Robert Williams Parry]], bardd a darlithydd | ||
* Dr [[R. Alun Roberts]], academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol | * Dr [[R. Alun Roberts]], academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol | ||
* [[Mathonwy Hughes]], | * [[Mathonwy Hughes]], bardd, llenor ac is-olygydd Y Faner | ||
* [[Gwilym R. Jones]], | * [[Gwilym R. Jones]], bardd, llenor a golygydd Y Faner | ||
* | * [[R. Silyn Roberts]], bardd, llenor, gweinidog ac arloeswr a threfnydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) | ||
* [[Betty Williams, | * [[O. Llew Owain]], newyddiadurwr, llenor a cherddor | ||
* [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]] 1869-1930, cerddor | |||
* [[Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy)]], canwr a storiwr | |||
* [[John Llywelyn Roberts]], bardd ac undebwr | |||
* [[William John Davies (Glan Llyfnwy)]], bardd a gweinidog | |||
* [[William John Davies (ymgymerwr llechi)|W.J. Davies]], (Wil John Fred), chwarelwr, actor, nofelydd a siaradwr cyhoeddus huawdl | |||
* [[Morgan W. Griffith]], pregethwr amlwg a chymeriad nodedig | |||
* [[Idwal Jones]], pregethwr, storiwr a sgriptiwr poblogaidd | |||
* [[Alwyn Thomas]], storiwr a gweinidog | |||
* [[Ffowc Williams]], telynegwr, sonedwr a gweinidog | |||
* [[Mary King Sarah]], cantores nodedig | |||
* [[Cledwyn Jones]], athro a chanwr - un o Driawd y Coleg | |||
* [[Bryn Fôn]] a [[Cefin Roberts]], cantorion, actorion a pherfformwyr | |||
* [[Betty Williams]], gwleidydd a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Aberconwy | |||
* [[Huw Lloyd Edwards]], dramodydd, athro a darlithydd | |||
* [[Tristian Evans]], pianydd clasurol | |||
* [[Richard Garnons]], perchennog chwareli | |||
* [[John Roberts, Llangwm]], pregethwr, gweinidog ac athro a fagwyd yn y Ffridd Baladeulyn | |||
* [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf]], "yr angel o Glynnog" - gweinidog ac un o bregethwyr amlycaf ei oes, a brawd John Roberts uchod. | |||
==Y pentref== | ==Y pentref== | ||
Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros | Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond [[Capel Ebeneser (B), Llanllyfni|capel Ebeneser]] y Bedyddwyr. Ar un adeg, bu Crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd Crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd (enwad bach, Albanaidd yn ei hanfod) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau. | ||
Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans, a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888: | |||
"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....." | |||
"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: ''Siop Uchaf, Siop Liverpool House'' a ''Siop London House'' (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), ''Siop Rhedyw'' (blawdiau), ''Y Llythyrdy'' (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), ''Siop Manchester House'' (siop ddillad fawr), ''Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House'' (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), ''Siop Gruffudd Jones y Cigydd'' (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a ''Siop Robert Williams y Cigydd'' (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai. | |||
"Cofiaf bum [[Tafarndai Llanllyfni|tŷ tafarn]] yn y pentref, sef ''[[Tafarn Barmouth|Barmouth Tavern]], [[Tafarn y Ffort|Fort Tavern]], [[Tafarn y Cwari|Quarrymen's Arms]], [[Tafarn y King's Head|King's Head]]'' ''a [[Tafarn Coed-cae-du|Thafarn y Coecia]]'' (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)." | |||
==Addysg== | ==Addysg== | ||
Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts, yr ysgolfeistr | Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]], yr ysgolfeistr : | ||
Dec. 20th 1872: ''"...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6."'' <ref>Allan o ''Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd'' Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]] | [[Categori:Plwyfi hanesyddol]] | ||
[[Categori:Pentrefi a threflannau]] | [[Categori:Pentrefi a threflannau]] | ||
[[Categori:Ffiniau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:38, 5 Hydref 2023
Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau Afon Llyfni i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tan'rallt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle a oedd gynt yn rhan o blwyf Llandwrog.
Roedd Llanllyfni hefyd yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion Cymreig ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Gweler manylion o dan Llanllyfni (trefgordd).
Mewn dyddiau diweddarach, rhannwyd y plwyf yn ddwy drefgordd: Eithinog a Nantlle neu Nanlle.
Ffiniau a thirwedd
Nid oes unrhyw ran o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - hwn yw'r unig un o blwyfi Uwchgwyrfai sydd heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog Fawr i'r gorllewin a'r de. Mae Afon Llyfni'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dulyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hefyd yn eiddo i blwyf Llanllyfni.
Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffin ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur dywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynnod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Chwm Dulyn. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.
Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth a oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill o'r plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.
Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.
Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.
Ei Ŵyl Mabsant yw 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.
Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan ddechrau am 7 o'r gloch.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twisleton a briododd ferch a oedd yn perthyn i deulu Glynn.
Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:
- Robert Williams Parry, bardd a darlithydd
- Dr R. Alun Roberts, academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol
- Mathonwy Hughes, bardd, llenor ac is-olygydd Y Faner
- Gwilym R. Jones, bardd, llenor a golygydd Y Faner
- R. Silyn Roberts, bardd, llenor, gweinidog ac arloeswr a threfnydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA)
- O. Llew Owain, newyddiadurwr, llenor a cherddor
- Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) 1869-1930, cerddor
- Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy), canwr a storiwr
- John Llywelyn Roberts, bardd ac undebwr
- William John Davies (Glan Llyfnwy), bardd a gweinidog
- W.J. Davies, (Wil John Fred), chwarelwr, actor, nofelydd a siaradwr cyhoeddus huawdl
- Morgan W. Griffith, pregethwr amlwg a chymeriad nodedig
- Idwal Jones, pregethwr, storiwr a sgriptiwr poblogaidd
- Alwyn Thomas, storiwr a gweinidog
- Ffowc Williams, telynegwr, sonedwr a gweinidog
- Mary King Sarah, cantores nodedig
- Cledwyn Jones, athro a chanwr - un o Driawd y Coleg
- Bryn Fôn a Cefin Roberts, cantorion, actorion a pherfformwyr
- Betty Williams, gwleidydd a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Aberconwy
- Huw Lloyd Edwards, dramodydd, athro a darlithydd
- Tristian Evans, pianydd clasurol
- Richard Garnons, perchennog chwareli
- John Roberts, Llangwm, pregethwr, gweinidog ac athro a fagwyd yn y Ffridd Baladeulyn
- Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf, "yr angel o Glynnog" - gweinidog ac un o bregethwyr amlycaf ei oes, a brawd John Roberts uchod.
Y pentref
Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond capel Ebeneser y Bedyddwyr. Ar un adeg, bu Crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd Crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd (enwad bach, Albanaidd yn ei hanfod) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.
Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans, a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:
"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."
"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: Siop Uchaf, Siop Liverpool House a Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.
"Cofiaf bum tŷ tafarn yn y pentref, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."
Addysg
Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur), yr ysgolfeistr :
Dec. 20th 1872: "...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6." [1]
Cyfeiriadau
- ↑ Allan o Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5