Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 45: Llinell 45:
* [[Cledwyn Jones]], athro a chanwr - un o Driawd y Coleg
* [[Cledwyn Jones]], athro a chanwr - un o Driawd y Coleg
* [[Bryn Fôn]] a [[Cefin Roberts]], cantorion, actorion a pherfformwyr  
* [[Bryn Fôn]] a [[Cefin Roberts]], cantorion, actorion a pherfformwyr  
* [[Betty Williams, AS]], gwleidydd a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Aberconwy
* [[Betty Williams]], gwleidydd a fu'n Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Aberconwy
* [[Huw Lloyd Edwards]], dramodydd, athro a darlithydd
* [[Huw Lloyd Edwards]], dramodydd, athro a darlithydd
* [[Tristan Evans]], cerddor o fri
* [[Tristan Evans]], cerddor o fri
Llinell 61: Llinell 61:
"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: ''Siop Uchaf, Siop Liverpool House'' a ''Siop London House'' (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), ''Siop Rhedyw'' (blawdiau), ''Y Llythyrdy'' (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), ''Siop Manchester House'' (siop ddillad fawr), ''Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House'' (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), ''Siop Gruffudd Jones y Cigydd'' (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a ''Siop Robert Williams y Cigydd'' (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.  
"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: ''Siop Uchaf, Siop Liverpool House'' a ''Siop London House'' (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), ''Siop Rhedyw'' (blawdiau), ''Y Llythyrdy'' (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), ''Siop Manchester House'' (siop ddillad fawr), ''Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House'' (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), ''Siop Gruffudd Jones y Cigydd'' (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a ''Siop Robert Williams y Cigydd'' (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.  


"Cofiaf bum tŷ tafarn yn y pentref, sef ''Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head'' ''a Thafarn y Coecia'' (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."
"Cofiaf bum [[Tafarndai Llanllyfni|tŷ tafarn]] yn y pentref, sef ''[[Tafarn Barmouth|Barmouth Tavern]], [[Tafarn y Ffort|Fort Tavern]], [[Tafarn y Cwari|Quarrymen's Arms]], [[Tafarn y King's Head|King's Head]]'' ''a [[Tafarn Coed-cae-du|Thafarn y Coecia]]'' (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."


==Addysg==
==Addysg==

Fersiwn yn ôl 08:56, 29 Mawrth 2022

Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau Afon Llyfni i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tan'rallt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle a oedd gynt yn rhan o blwyf Llandwrog.

Roedd Llanllyfni hefyd yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion Cymreig ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Gweler manylion o dan Llanllyfni (trefgordd).

Mewn dyddiau diweddarach, rhannwyd y plwyf yn ddwy drefgordd: Eithinog a Nantlle neu Nanlle.

Ffiniau a thirwedd

Nid oes unrhyw ran o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - hwn yw'r unig un o blwyfi Uwchgwyrfai sydd heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog Fawr i'r gorllewin a'r de. Mae Afon Llyfni'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dulyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hefyd yn eiddo i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffin ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur dywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynnod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Chwm Dulyn. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Roedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth a oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill o'r plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei Ŵyl Mabsant yw 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan ddechrau am 7 o'r gloch.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oedd plasty mawr yn y plwyf, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twisleton a briododd ferch a oedd yn perthyn i deulu Glynn.

Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:

Y pentref

Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond capel Ebeneser y Bedyddwyr. Ar un adeg, bu Crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd Crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd (enwad bach, Albanaidd yn ei hanfod) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.

Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans, a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:

"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."

"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentyndod i: Siop Uchaf, Siop Liverpool House a Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (fe gododd dŷ ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.

"Cofiaf bum tŷ tafarn yn y pentref, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."

Addysg

Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur), yr ysgolfeistr :

Dec. 20th 1872: "...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6." [1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5