Ffugenwau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Rhestrir isod y '''ffugenwau''' a ddefnyddid gan nifer o unigolion (rhai artistig yn bennaf) sydd wedi dod i'r amlwg wrth lunio erthyglau ar gyfer '''Cof y Cwmwd'''. Dylid | Rhestrir isod y '''ffugenwau''' a ddefnyddid gan nifer o unigolion (rhai artistig yn bennaf) ac sydd wedi dod i'r amlwg wrth lunio erthyglau ar gyfer '''Cof y Cwmwd'''. Dylid sôn mai'r hyn a elwir yn aml yn enwau barddol sydd dan sylw yma. Mae enwau barddol neu ffugenwau'n wahanol i lysenwau (''nicknames'') sydd yn aml yn amharchus. Ymfalchïai unigolion yn eu ffugenwau neu eu henwau barddol fel arwydd eu bod yn bobl greadigol neu'n berfformwyr o fri ac yn aml fe'u dyfarnwyd i unigolyn fel canlyniad i lwyddiant eisteddfodol. Wrth i arholiadau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn gysylltiedig â'r Eisteddfod Genedlaethol ddatblygu tua diwedd y 19g, daeth mwy o bobl i ennill enwau barddol, a hynny trwy lwyddo yn yr arholiadau ac ymuno â'r Orsedd. Byddai eraill yn mabwysiadu ffugenw er mwyn ysgrifennu'n anhysbys - neu efallai'n ennill statws bardd trwy'r drws cefn!. | ||
Roed hi'n arferol i feirdd ddefnyddio ffurf Cymraeg eu henwau bedydd (Siôn yn lle John, er enghraifft) ynghyd ag ansoddair neu enw lle yr oedd gan y bardd gysylltiad ag ef. Byddai cerddorion yn tueddu dewis | Roed hi'n arferol i feirdd ddefnyddio ffurf Cymraeg eu henwau bedydd (Siôn yn lle John, er enghraifft) ynghyd ag ansoddair neu enw lle yr oedd gan y bardd gysylltiad ag ef. Byddai cerddorion yn tueddu dewis ffugenwau a gyfeiriai at eu talent cerddorol - Alaw, Pencerdd neu Eos, ynghyd ag ansdoddair neu enw lle. Nid oedd unrhyw reol pendant a mater o arferiad a chonfensiwn ydoedd. Roedd merched yn ogystal â dynion yn mabwysiadu ffugenwau, ond ychydig sydd yn y rhestr isod, a'r rheiny'n gyfyngedig bron i gyd i gerddorion. | ||
Er i'r arfer barhau am dros ddwy ganrif, fe edwinodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dichon i gymdeithas fwy soffistigedig ei weld fel arferiad ymfrolgar gan feirdd gwlad digon ddi-nod, er i'r arfer barhau wrth gyfeirio at rai beirdd uchel eu parch - mae [[Cynan]] yn enghraifft arbennig o hyn. Efallai hefyd bod llai o angen defnyddio ffugenwau. Ychydig iawn o gyfenwau oedd yn ardal [[Dyffryn Nantlle]] nes i fewnfudo gynyddu, a byddai ffugenw'n ddynodydd digon defnyddiol yn yr un modd ag y byddai llysenw, neu arddel enw tŷ neu fferm yn gysylltiedig â pherson (e.e. Siân Tŷ Pen, John Roberts cigydd, neu Magi'r Post). Sylwer mai dim ond dau gyfenw "diarth" sydd yn y rhestr isod: Radcliffe a Sarah. | Er i'r arfer barhau am dros ddwy ganrif, fe edwinodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dichon i gymdeithas fwy soffistigedig ei weld fel arferiad ymfrolgar gan feirdd gwlad digon ddi-nod, er i'r arfer barhau wrth gyfeirio at rai beirdd uchel eu parch - mae [[Cynan]] yn enghraifft arbennig o hyn. Efallai hefyd bod llai o angen defnyddio ffugenwau. Ychydig iawn o gyfenwau oedd yn ardal [[Dyffryn Nantlle]] nes i fewnfudo gynyddu, a byddai ffugenw'n ddynodydd digon defnyddiol yn yr un modd ag y byddai llysenw, neu arddel enw tŷ neu fferm yn gysylltiedig â pherson (e.e. Siân Tŷ Pen, John Roberts cigydd, neu Magi'r Post) mewn cylch ll;e roedd pawb yn Jones, Hughes neu Williams!. Sylwer mai dim ond dau gyfenw "diarth" sydd yn y rhestr isod: Radcliffe a Sarah. | ||
Dylid nodi hefyd ei fod yn anodd weithiau wahaniaethu rhnwg enwau a arddelid yn agored gan unigolion ac enwau a ddefnyddid er mwyn i awdur neu berfformiwr guddio y tu ôl iddynt gan aros yn anhysbys. Isod, cynhwysir pob ffugenw sydd yn rhan o deitl erthygl. | Dylid nodi hefyd ei fod yn anodd weithiau wahaniaethu rhnwg enwau a arddelid yn agored gan unigolion ac enwau a ddefnyddid er mwyn i awdur neu berfformiwr guddio y tu ôl iddynt gan aros yn anhysbys. Isod, cynhwysir pob ffugenw sydd yn rhan o deitl erthygl rhag anwybyddu neb. | ||
{| class="wikitable" | {| class="wikitable" | ||
Fersiwn yn ôl 16:02, 13 Mai 2025
Rhestrir isod y ffugenwau a ddefnyddid gan nifer o unigolion (rhai artistig yn bennaf) ac sydd wedi dod i'r amlwg wrth lunio erthyglau ar gyfer Cof y Cwmwd. Dylid sôn mai'r hyn a elwir yn aml yn enwau barddol sydd dan sylw yma. Mae enwau barddol neu ffugenwau'n wahanol i lysenwau (nicknames) sydd yn aml yn amharchus. Ymfalchïai unigolion yn eu ffugenwau neu eu henwau barddol fel arwydd eu bod yn bobl greadigol neu'n berfformwyr o fri ac yn aml fe'u dyfarnwyd i unigolyn fel canlyniad i lwyddiant eisteddfodol. Wrth i arholiadau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn gysylltiedig â'r Eisteddfod Genedlaethol ddatblygu tua diwedd y 19g, daeth mwy o bobl i ennill enwau barddol, a hynny trwy lwyddo yn yr arholiadau ac ymuno â'r Orsedd. Byddai eraill yn mabwysiadu ffugenw er mwyn ysgrifennu'n anhysbys - neu efallai'n ennill statws bardd trwy'r drws cefn!.
Roed hi'n arferol i feirdd ddefnyddio ffurf Cymraeg eu henwau bedydd (Siôn yn lle John, er enghraifft) ynghyd ag ansoddair neu enw lle yr oedd gan y bardd gysylltiad ag ef. Byddai cerddorion yn tueddu dewis ffugenwau a gyfeiriai at eu talent cerddorol - Alaw, Pencerdd neu Eos, ynghyd ag ansdoddair neu enw lle. Nid oedd unrhyw reol pendant a mater o arferiad a chonfensiwn ydoedd. Roedd merched yn ogystal â dynion yn mabwysiadu ffugenwau, ond ychydig sydd yn y rhestr isod, a'r rheiny'n gyfyngedig bron i gyd i gerddorion.
Er i'r arfer barhau am dros ddwy ganrif, fe edwinodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dichon i gymdeithas fwy soffistigedig ei weld fel arferiad ymfrolgar gan feirdd gwlad digon ddi-nod, er i'r arfer barhau wrth gyfeirio at rai beirdd uchel eu parch - mae Cynan yn enghraifft arbennig o hyn. Efallai hefyd bod llai o angen defnyddio ffugenwau. Ychydig iawn o gyfenwau oedd yn ardal Dyffryn Nantlle nes i fewnfudo gynyddu, a byddai ffugenw'n ddynodydd digon defnyddiol yn yr un modd ag y byddai llysenw, neu arddel enw tŷ neu fferm yn gysylltiedig â pherson (e.e. Siân Tŷ Pen, John Roberts cigydd, neu Magi'r Post) mewn cylch ll;e roedd pawb yn Jones, Hughes neu Williams!. Sylwer mai dim ond dau gyfenw "diarth" sydd yn y rhestr isod: Radcliffe a Sarah.
Dylid nodi hefyd ei fod yn anodd weithiau wahaniaethu rhnwg enwau a arddelid yn agored gan unigolion ac enwau a ddefnyddid er mwyn i awdur neu berfformiwr guddio y tu ôl iddynt gan aros yn anhysbys. Isod, cynhwysir pob ffugenw sydd yn rhan o deitl erthygl rhag anwybyddu neb.
| Ffugenw/Enw barddol | Enw arferol | Dolen at erthygl |
|---|---|---|
| Alafon | Owen Griffith Owen | Owen Griffith Owen (Alafon) |
| Alaw Cadfan | Solomon Jones | Solomon Jones (Alaw Cadfan) |
| Alaw Dulyn | David D. Griffith | David D. Griffith (Alaw Dulyn) |
| Alaw Llyfnwy | John Hughes | John Hughes (Alaw Llyfnwy) |
| Aled Ddu | Robert R. Williams | Robert R. Williams (Aled Ddu) |
| Anant | Owen Edwards | Owen Edwards (Anant) |
| Ap Gwyrfai | Thomas Williams | Thomas Williams (Ap Gwyrfai) |
| Bardd y Gwrych | John Huws | John Huws (Bardd y Gwrych) |
| Callestr Fardd | Robert Jones | Robert Jones (Callestr Fardd) |
| Ceridwen Peris | Alice Grey Jones | Alice Gray Jones (Ceridwen Peris) |
| Ceridwen Llyfnwy | Alice Griffiths | Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy) |
| Croesfryn | Richard Williams | Richard Williams (Croesfryn) |
| Cyrus | William W. Jones | William W. Jones (Cyrus) |
| Dafydd ab Hu Feddyg | David William Pughe | David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg) |
| Dafydd Ddu Eryri | David Thomas | David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) |
| Dafydd Tom | David Thomas Williams | David Thomas Williams (Dafydd Tom) |
| Dewi Arfon | David Jones | David Jones (Dewi Arfon) |
| Dewi Dinorwig | David Price | David Price (Dewi Dinorwig) |
| Dic Tryfan | R. Hughes Williams | R. Hughes Williams (Dic Tryfan) |
| Dinlle | Thomas Parry | Thomas Parry (Dinlle) |
| Eben Fardd | Ebenezer Thomas | Ebenezer Thomas (Eben Fardd) |
| Elis Wyn o Wyrfai | Ellis Roberts | Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) |
| Eos Eifion | William Evans | William Evans (Eos Eifion) |
| Eos Graianog | William Williams | William Williams (Eos Graianog) |
| Eos Llyfnwy | Morris Roberts | Morris Roberts (Eos Llyfnwy) |
| Eos y Ceiri | Owen Ellis Owen | Owen Ellis Owen (Eos y Ceiri) |
| Erfyl Fychan | Robert William Jones | Robert William Jones (Erfyl Fychan) |
| Eryron Gwyllt Walia | Robert Owen | Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia) |
| Glan Caeron | William Hughes | William Hughes (Glan Caeron) |
| Glan Peris | Griffith G. Jones | Griffith G. Jones (Glan Peris) |
| Glasynys | Owen Wynne Jones | Owen Wynne Jones (Glasynys) |
| Gosenian | Robert William Jones | Robert William Jones (Gosenian) |
| Gwallter Llyfnwy | Walter S. Jones | Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy) |
| Gwelltyn | Henry Hughes | Henry Hughes (Gwelltyn) |
| Gwilym Ceiri | William Roberts | William Roberts (Gwilym Ceiri) |
| Gwilym Droed-ddu | William Parry | William Parry (Gwilym Droed-ddu) |
| Gwilym Ddu Glan Hafren | William Owen | William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren) |
| Gwilym Glasgoed | William Roberts | William Roberts (Gwilym Glasgoed) |
| Gwyndaf Eryri | Richard Jones | Richard Jones (Gwyndaf Eryri) |
| Gwyndaf Ieuanc | Hugh Jones | Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc) |
| Hassan | John Rowlands | John Rowlands (Hassan) |
| Homo Goch | Hugh Owen Parry | Hugh Owen Parry (Homo Goch) |
| Hywel Cefni | H.E. Jones | H.E. Jones (Hywel Cefni) |
| Hywel Eryri | Hugh Evans | Hugh Evans (Hywel Eryri) |
| Hywel Tudur | Howell Roberts | Howell Roberts (Hywel Tudur) |
| Hu Gadarn | William Griffith | William Griffith (Hu Gadarn) |
| Idanfryn | John Hughes | John Hughes (Idanfryn) |
| Ieuan Nebo | Evan Jones | Evan Jones (Ieuan Nebo) |
| Ioan ab Hu Feddyg | John Pughe | John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg) |
| Ioan ap Ioan | anhysbys (fl.1888) | Ioan ap Ioan |
| Ioan Eifion | John Jones | John Jones (Ioan Eifion) |
| Ioan Wythwr | John O. Owens | John O. Owens (Ioan Wythwr) |
| Iolo Caernarfon | John John Roberts | John John Roberts (Iolo Caernarfon) |
| Iolo Glan Twrog | John Roberts | John Roberts (Iolo Glan Twrog) |
| J.W. Llundain | John Williams | John Williams (J.W. Llundain) |
| Llechfrenin America | Hugh W. Hughes | Hugh W. Hughes (Llechfrenin America) |
| Llew Deulyn | Isaac B. Williams | Isaac B. Williams (Llew Deulyn) |
| Llwydiarth Môn | David Thomas | David Thomas (Llwydiarth Môn) |
| Llwydlas | William John Roberts | William John Roberts (Llwydlas) |
| Llyfnwy | Robert Ellis (m.1872) | Robert Ellis (Llyfnwy) |
| Llyfnwy | Ellis W. Hughes (g.1870) | Ellis W. Hughes (Llyfnwy) |
| Mair Alaw | Mary Owen | Mary Owen (Mair Alaw) |
| Maldwynog | John Jones | John Jones (Maldwynog) |
| Mawrthfab | John Owen Williams | John Owen Williams (Mawrthfab) |
| Meurig Wyn | Morris Williams | Morris Williams (Meurig Wyn) |
| Owain Meurig | Owen Morris | Owen Morris (Owain Meurig) |
| Pencerdd Cernyw | John Sarah | John Sarah (Pencerdd Cernyw) |
| Pencerdd Eifion | W. Jarrett Roberts | W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion) |
| Pencerdd Llifon | R. Hughes Jones | R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon) |
| Pencerdd Llyfnwy | Robert D. Thomas (1849-1882) | Robert D. Thomas (Pencerdd Llyfnwy) |
| Pencerdd Llyfnwy | Richard Griffith Owen (1869-1930) | Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) |
| Senoj Nave | Evan Jones | Evan Jones (Senoj Nave) |
| Seren Aerau | Sarah Sarah | Sarah Sarah (Seren Aerau) |
| Shan Fwyn | Jane Roberts | Jane Roberts (Shan Fwyn), Llanllyfni |
| Sion Caeronwy | John Jones | John Jones (Sion Caeronwy) |
| Sion Gwynedd | John Gwynneth | Sion Gwynedd (John Gwynneth) |
| Siôn Robert Lewis | John Roberts | Siôn Robert Lewis (John Roberts) |
| Tenorydd Llyfnwy | Hugh R. Owen | Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy) |
| Thomas Michaeliones | Thomas Michael Jones | Thomas Michaeliones (Thomas Michael Jones) |
| Trebor Aled | Robert Roberts | Robert Roberts (Trebor Aled) |
| Trebor Cybi | Robert Williams | Robert Williams (Trebor Cybi) |
| Tremlyn | David Davies | David Davies (Tremlyn) |
| Tryfanwy | John Richard Williams | John Richard Williams (Tryfanwy) |
| Tryfanydd | Thomas Radcliffe | Thomas Radcliffe (Tryfanydd) |
| Tudwal | Hugh Tudwal Davies | Hugh Tudwal Davies (Tudwal) |
| Wil Parsal | William Jones | William Jones (Wil Parsal) |
| Wil Tan-y-Maes | William Evans | William Evans (Wil Tan-y-Maes) |
| Wil Tyddyn | William Jones | William Jones (Wil Tyddyn) |