R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cerddor o Garmel oedd Richard Hughes Jones, a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf Clynnog Fawr). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.[1]

Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".[2]

Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[3] Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.[4]

Yr oedd yn arweinydd ar Gôr Carmel a ffurfiwyd tua 1914.[5] Adroddodd yr Herald Cymraeg ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl cyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Roedd y côr hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal yng Nghapel Bryn'rodyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[6] Yn fuan ar ôl i'r Herald gyhoeddi ei adroddiad, bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg, Caernarfon, eisteddfod bwysig ar y pryd - ac i wneud ei fuddugoliaeth yn fwy trawiadol fyth, bu iddo guro côr ardderchog o Lerpwl.[7]

Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i Ddyffryn Nantlle ychydig cyn hynny.[8] Mae o law, cafodd ei chydnabod fel cantores o fri gan gael ei hadnabod fel "Madame Hughes-Jones".[9] Yr oedd gan y cwpl o leiaf ddwy o ferched, Menna a Kitty. Priododd Menna Saes oedd yn aelod o'r Llu Awyr, y Sarjent R.V. Bone, Horsham, Sussex.[10]

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:

PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr 
 Dy lawysgrif, gyfaill llon, 
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, 
 Yn creu hiraeth dan fy mron 
'Rwyt am ddyfod eto i ganu 
 Y Nadolig, medda ti, 
Na, hen ffrindiau, y mae amser 
 Wedi newid gyda ni. 
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Côr yn canu fel un llu, 
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, 
 "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", 
A "Gwnaed concwest ar Galfaria," 
 "Ffarwel iti, Gymru fad," 
Nes y byddai creigiau Cilgwyn 
 Yn adseinio mewn mwynhad. 
Canu'r nos, a chanu'r bore, 
 Fuom gynt yng Nghymru wen, 
Ac fe genir eto yno 
 Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen 
Er i dywyll amgylchiadau 
 Yrru'r plant i estron dir, 
Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, 
 Ganddynt wneir am amser hir. 
Ond gobeithiwn y daw dyddiau 
 Difyr eto, megis cynt; 
Pan y gwelir meibion Gwalia 
 Wedi dychwel ar eu hynt; 
Ac y ffy'r cymylau duon 
 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, 
Pan y clywir cân a moliant 
 Eto'n nghymoedd Cymru Wen. 
RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[11]

Ar ôl y rhyfel, symudodd i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.[12] Roedd yn dal i fyw yno, mewn tŷ o'r enw Trefin, ym 1939.[13]


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901
  2. Yr Herald Cymraeg, 2.3.1909, t.6
  3. Yr Herald Cymraeg, 28.7.1908, t.5
  4. The Cardiff Times, 10.8.1907, t.2
  5. Y Brython, 23.4.1914, t.6
  6. Yr Herald Cymraeg, 31.3.1914, t.5
  7. Y Darian, 30.4.1914, t.4
  8. Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5; Y Darian, 6.12.1917, t.8; Yr Herald Cymraeg, 30.1.1917, t.8
  9. e.e. Liverpool Evening Express, 11.11.1939, t.3
  10. Liverpool Daily Post, 13.11.1939, t.2
  11. Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2
  12. Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025
  13. Liverpool Daily Post, 13.11.1939, t.2