John O. Owens (Ioan Wythwr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd John O. Owens (Ioan Wythwr) (1846-1871) yn fardd ifanc o Dal-y-sarn a oedd heb gyflawni ei addewid pan fu farw ar ôl cystudd hir yn 25 oed. Ei gartref cyntaf oedd 4 Pen-y-bont, Nantlle cyn i'r teulu symud i Frynteg, Tal-y-sarn rywbryd cyn 1871. Yr oedd ei dad, Owen Owens, yn grydd a aned i Owen a Mary Owens ym 1813 ac a hanai o Lanengan; yr oedd ei fam, Margaret, o Walchmai, Ynys Môn. Bu i'r ddau briodi yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni 16 Mawrth 1841.[1] Brawd ydoedd i'r gantores amlwg, Mair Alaw.[2]

Sonnir gan W.R. Ambrose ei fod hefyd wedi cyfansoddi traethawd arobryn ar hanes plwyfi Dyffryn Nantlle.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau plwyf Llanllyfni, 1841
  2. Cerddor y Tonic Sol-ffa, Cyf. 3 (1871), t.47
  3. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.89-90