Hugh W. Hughes (Llechfrenin America)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Hugh W. Hughes (Llechfrenin America) (1836-1890) yn Nhirion Pelyn, ger y drofa am Nebo, yn un o naw o blant. Aeth i America yn 21 oed a bu’n gweithio mewn chwareli. Cynilodd ddigon o arian i fedru agor ei chwarel ei hun. Gwnaeth elw mawr trwy brynu a gwerthu rhagor o chwareli a’u gweithio; sefydlodd fanc; cododd balas o dŷ a daeth yn arweinydd llywodraeth leol.

Pan fu farw gadawodd stad gwerth $125,000 a pholisi yswiriant gwerth $15,000. Mae cofgolofn anferth iddo ym mynwent Elmwood, Middle Granville, Efrog Newydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau