Tirion Pelyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn yn Nasareth, plwyf Llanllyfni yw Tirion Pelyn.

Gerllaw mae tyddynnod eraill o’r enw Pen Pelyn a Llidiart Pelyn. Ystyr “tirion” yw tiroedd. Enw dyn yw Pelyn. Gŵr o’r enw Belyn o Lŷn oedd un o arweinwyr y Cymry yng Ngogledd Cymru yn eu brwydrau yn erbyn y Saeson yn y seithfed ganrif.[1]

Yma y ganwyd Hugh W. Hughes (Llechfrenin America) (1836-1890) yn un o naw o blant. Aeth i America yn 21 oed a bu’n gweithio mewn chwareli. Cynilodd ddigon o arian i fedru agor ei chwarel ei hun. Gwnaeth elw mawr trwy brynu a gwerthu rhagor o chwareli a’u gweithio; sefydlodd fanc; cododd balas o dŷ a daeth yn arweinydd llywodraeth leol.

Pan fu farw gadawodd stad gwerth $125,000 a pholisi yswiriant gwerth $15,000. Mae cofgolofn anferth iddo ym mynwent Elmwood, Middle Granville, Efrog Newydd.

Cyfeiriadau

  1. Bedwyr Lewis Jones, Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), t.83