William Jones (Wil Parsal)
Roedd William Jones (Wil Parsal) yn fardd gwlad, arweinydd partïon a chorau ac arweinydd a diddanwr mewn nosweithiau llawen.
Brodor o ardal Cilan yn Llŷn oedd William Jones, ond yn dilyn ei briodas â Laura, un o ferched fferm Cae Cropa, Trefor, ymsefydlodd yn fferm Parsal, ar fin y ffordd fawr rhwng Trefor a Gurn Goch ac felly y daeth i'w adnabod fel Wil Parsal. Ganed tri o feibion iddynt, Trefor, Alun ac Arthur.
Bardd gwlad hynod gynhyrchiol oedd Wil Parsal yn anad dim. Am flynyddoedd lawer bu ganddo gerddi cyson yn Yr Herald Cymraeg. Roedd llawer iawn o'r rhain yn hanesion ar gân o droeon trwstan neu anffodion a oedd wedi dod i ran pobl yn yr ardal, ac os digwyddai rhyw helbul neu'i gilydd byddai pobl yn aml yn arswydo rhag ofn i'w helyntion gael eu datgelu gan Wil yn yr Herald yr wythnos ganlynol. Ar gyfnodau bu'n cymryd rhan mewn ymrysonau barddol ar wahanol bynciau cyfoes gyda beirdd eraill lleol. Un y bu'n ymrysona ag ef am gryn amser oedd Dan Ellis, a symudodd i Drefor yn y 1960au i gadw siop, ac a fyddai'n anfon cerddi i'r Herald dan yr enw Dan Dean. Bu tipyn o ymryson hefyd rhwng Wil Parsal a Tom Bowen Jones o'r Gwydir Bach, Trefor (cynganeddwr crefftus a enillodd am ei englyn i'r Map yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968) a chyda Harri Reilly o Garmel. Ond yn ogystal â hwyl a thynnu coes byddai Wil Parsal hefyd yn anfon teyrngedau ar gân i gyfeillion a chydnabod a gollwyd, yn ogystal â cherddi ar achlysuron hapusach fel priodasau, genedigaethau a llongyfarchiadau i rai am gyflawni rhyw gampau neu'i gilydd. Casglwyd ffrwyth ei awen ynghyd mewn tair cyfrol: Parsal Wil (1972), Ail Barsal Wil (1973) a Parsal Eto - Trydydd Parsal Wil (1978).
Roedd yn ymddiddori'n fawr mewn cerddoriaeth yn ogystal ac roedd ganddo lais canu soniarus. Am flynyddoedd bu'n hyfforddi ac arwain Parti Min-y-Môr, Trefor, a fu'n diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau ymhell ac agos. Aeth ymlaen wedyn i sefydlu côr cymysg a fu'n cystadlu mewn eisteddfodau a chynnal cyngherddau, yn ogystal â pharti llai o gantorion ac adroddwyr. Roedd galw cyson yn ystod misoedd y gaeaf am wasanaeth y côr a'r parti, ac yn ogystal â chynnal cyngherddau a nosweithiau llawen yn y gymdogaeth byddent yn teithio ar adegau cyn belled â Lerpwl a de Meirionnydd.
Bu William Jones farw yn 73 oed ar 29 Hydref 1981 a chynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Gosen, Trefor, lle bu'n aelod ers iddo ddod i'r ardal i fyw.