Parti Min-y-Môr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Parti canu ac adloniant a ffurfiwyd gan William Jones (Wil Parsal) oedd Parti Min-y-môr.

Deuai'r aelodau o bentref Trefor a'r ardal gyfagos gan mwyaf a buont yn diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau yn ystod y 1950a'u a dechrau'r 60au. Roedd gan y parti raglen amrywiol - y parti canu cyfan, unawdwyr ac adroddwyr - a bu galw cyson am eu gwasanaeth am rai blynyddoedd. Arweiniodd sefydlu'r Parti at ffurfio côr cymysg mwy yn ddiweddarach gan Wil Parsal. Bu'r côr hwnnw hefyd yn cynnal cyngherddau niferus a chystadlu mewn eisteddfodau yn ystod y 1960au a'r 70au, gan fynd cyn belled â mannau fel Lerpwl ar brydiau. Wrth i iechyd William Jones ddirywio bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r côr yn ogystal â pharti adloniant llai a fyddai'n cynnal cyngherddau'n ogystal.