Owen Wynne Jones (Glasynys)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts[1] ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Bu'r teeulu'n byw yr adeg honno yn Rhosgadfan, mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[2]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[3] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb (MC), Rhostryfan ym 1928. [4]

Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William J. Roberts (Llwydlas).[5] Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bod y llaw wedi glynu at hen arfer p[atronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  3. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  4. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.
  5. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.87