Rhosgadfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae pentref Rhosgadfan ym mhlwyf a chymuned Llanwnda ac yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Mae ysgol yma, a chlwb pêl-droed, sef eiddo Clwb Pêl-droed Mountain Rangers. Caewyd y capeli i gyd, a'r siopau a'r siop sglodion, er bod tafarn a siop yn gweithredu bellach yng Nghlwb Moutain Rangers. Yr unig adnoddau cymunedol eraill o bwys yw Coedwig Gymunedol Rhosgadfan ar ben Allt Ben Gwrli, a thŷ yr awdures y Ddr. Kate Roberts, sef Cae'r Gors, sydd wedi ei ail-godi o fod yn furddun.

Roedd y pentref yn araf i ddatblygu fel uned lle roedd y tai'n agos at ei gilydd, a hyd at tua 1900, cedwid yr hen batrwm Cymreig o dyddynod bach wedi eu taenu fel petae ar draws y tir. Amlygir hyn yn lleoliad hen gartref Kate Roberts, oedd gynt yn dyddyn, ond sydd bellach â thai modern a chlwb gerllaw. Rhan hynaf y pentref fel pentref yw Penyffridd, ar y ffordd i fyny i ardal Moeltryfan. Yn raddol fodd bynnag, symudodd galon y pentref i lawr i'r sgwâr neu "Four Crosses"; chodwyd ysgol yn fuan yn y 20g ac wedyn Neuadd Rhosgadfan ym 1933-4. Yn fuan wedyn codwyd tai cyngor y tu hwnt i Gapel Rhosgadfan, gan ymestyn ffiniau'r pentref modern bron at ddechrau'r Lôn Wen.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma