Capel Rhosgadfan (MC)
Codwyd Capel Rhosgadfan (MC) ym 1876, fel cangen o capel Horeb, Rhostryfan. Cyn yr 1860au rhaid oedd i Fethodistiaid Rhosgadfan gerdded y filltir i lawr yr allt i Gapel Horeb i fynychu oedfaon. Roedd ysgol Sul wedi bod yn cael ei chynnal, fodd bynnag, ers tua 1840, yn nhŷ Cae'r Gris, gyda dau o flaenoriaid Capel Rhostryfan, a oedd yn byw yn lleol, yn gofalu amdani.
Ym 1861, codwyd ysgoldy, at ddiben cynnal ysgol Sul yn unig, gyda lle i 100 o bobl ond yn fuan dechreuwyd cynnal pregethu ar b'nawniau Sul. Ym 1876 fodd bynnag, aed ati i godi capel i'r pentref, ar draul o £850, ac fe'i hagorwyd yn Ebrill 1877. Cytunodd y Parch. T. Gwynedd Roberts, gweinidog Horeb, i ofalu am Rosgadfan hefyd, a'r un flwyddyn fe sefydlwyd yr eglwys fel eglwys annibynnol ar Horeb, sef ym Medi 1877. Roedd y Methodistiaid wedi bod yn teimlo'r angen am gapel ers tro, gan fod y pentref yn tyfu a'r teuluoedd a oedd yn newydd i'r fro yn tueddu i fynd i gapel yr Annibynwyr, sef Capel Hermon (A), Moeltryfan, a oedd yn nes atynt. Fodd bynnag, ymunodd 66 o hen aelodau Horeb â'r eglwys newydd, ac erbyn diwedd 1877 roedd yna 78 o aelodau, 177 o wrandawyr ac 138 o aelodau gan yr ysgol Sul. Roedd 250 o eisteddleoedd yn y capel newydd.
Rhoddodd y Parch Gwynedd Roberts y gorau i'r ofalaeth ym 1894 ac, ym 1896, daeth y Parch J.O. Williams yn ei le fel gweinidog, er mai byr fu ei dymor, gan iddo farw yn Awst 1898. Brodor o'r Capel Uchaf, Clynnog Fawr ydoedd, ac wedi bod yn wan ei iechyd erioed.
Erbyn 1900 roedd yr aelodaeth wedi codi i 126[1], a ffynnodd yr eglwys am flynyddoedd, er mai Hermon, Moeltryfan, oedd capel mwyaf yr ardal o ran aelodaeth. Mae'r capel wedi cau ers blynyddoedd, a bellach mae wedi ei werthu.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.231, 328-333