H.E. Jones (Hywel Cefni)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh Evan Jones (1859–20 Mai 1941), a adwaenid wrth ei enw barddol Hywel Cefni, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, Tal-y-sarn. Bu i'w nith briodi John Sarah (Pencerdd Cernyw) rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw. Dywedir i John Sarah ymgymryd â phrentisiaeth er ei fod erbyn hynny yn ei 30au.[1]

Hywel Cefni – ar y cyd â'r bardd Owen Edwards (Anant) – a ddysgodd yr R. Williams Parry ifanc i gynganeddu.

Yn ei gyfnod, ystyrid Hywel Cefni ymysg beirdd gorau Dyffryn Nantlle, yn ôl y tabl o ragoriaethau a gwendidau beirdd lleol a gyhoeddwyd mewn papur lleol ym 1888.[2]

Dyma englyn o'i waith:

Wawr dlos gan aur dlysau i gyd - a'i harddwch
       Cerdda fel o'r Gwynfyd;
     Gwyryfol egyr hefyd
     Y dwyrain borth i deyrn byd.  (1910)[3]

Mae'n amlwg o'r mynych gyfeiriadau ato ym mhapurau newydd yr ardal ei fod yn arweinydd poblogaidd ar gyfarfodydd diwylliadol ac yn siaradwr ac ymgyrchydd ar ran achos dirwest.

Bu farw ym Modnant, Llangefni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llanllyfni 1911
  2. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7. Fe atgynhyrchir y tabl cyfan yng nghorff yr erthygl ar Owen Edwards (Anant)
  3. Papur Pawb, 29 Hydref 1910, t.3