Hugh Tudwal Davies (Tudwal)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed Hugh Tudwal Davies (1847-1915) ym Mynachdy Gwyn, ffermdy yn mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Roedd yn nai i Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon.

Symudodd y teulu o Uwchgwyrfai i fferm Yr Orsedd Fawr, Pencaenewydd pan oedd tua 18 oed, ac o 1872 ymlaen bu'n amaethu ym Mrynllaeth, Llŷn. Priododd ferch y Capten John Hughes, Gellidara, ac yno y bu farw fis Ebrill 1915.

Roedd yn fardd medrus, gan ennill gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Pwllheli (1875), Caernarfon (1880) a Chaernarfon (1895).[1] Bu hefyd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Gadeiriol Eryri, 1879, a gynhaliwyd ym Mhen-y-groes. Ar yr achlysur hwnnw, enillodd Tudwal gyda chanmoliaeth yn y gystadleuaeth cyfansoddi cywydd ar y testun 'Unigedd'. Y wobr oedd £2.2,0c (sef dwy gini - cyflog tua phythefnos i weithiwr cyffredin bryd hynny) a bathodyn. Daeth pum ymgais i law a Tudwal, meddai'r beirniad, oedd y gorau o ddigon.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgaffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.117
  2. Y Genedl Gymreig,17.4.1879, t.6