Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Saif Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu'r Meredyddiaid yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr nid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ac ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan Gwyddaint, disgybl (yr honnir) i Sant Beuno . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gydag Afon Wen yn llifo heibio.

Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwynion. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd wedi dod yn berchen ar diroedd trefgordd Cwm a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymiad y Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston. Rywbryd yn fuan wedi hynny, prynodd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys les ar drefgordd Cwm, gan symud yno i fyw, gyda’i deulu. Parhai ei ddisgynyddion ef i fyw ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw yno. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod y tu fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[1]

Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Fodd bynnag, bu i rai o blant y teulu briodi aelodau o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glyn (Glynllifon), Pennarth a Madryn - priodasau a drefnwyd , mae'n debyg, er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.[2]

Dros gyfnod o amser, lleihaodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn nes iddo fod yn fawr mwy na fferm ar ystad Aberdeunant, Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod wedi ei wneud na fyddai un cae arbennig yn cael ei aredig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.[3]

Am erthygl am yr ystad oedd yn perthyn i deulu Meredydd hyd 1778, gweler Ystad Mynachdy Gwyn.

Cyfeiriadau

  1. CHC, op.cit., t.40
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  3. Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.