Gwyddaint

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nid oes fawr ddim yn wybyddus am Gwyddaint, ar wahân iddo roi tir o'i eiddo yng Nghlynnog-fawr i Sant Beuno iddo godi cell a chlas, wedi i'w gefnder, y brenin Cadwallon ap Cadfan, roi tir nad oedd yn eiddo iddo i Beuno ym mhlwyf Llanwnda, gan achosi helynt. Ar ôl i Beuno roi ffon o aur gwerth 60 o wartheg i Cadwallon yn gydnabyddiaeth am y tir, daeth dynes â babi ato gan ofyn i Beuno fedyddio'r plentyn. Esboniodd yn ddagreuol fod Cadwallon wedi rhoi'r tir a oedd yn etifeddiaeth y plentyn i Beuno. Er mwyn achubiaeth i'w enaid ef ac enaid ei gefnder, rhoddodd Gwyddaint dir yng Nghlynnog i Beuno yn lle'r tir yn Llanwnda.[1]

Dywedir hefyd iddo sefydlu mynachlog ym Mynachdy Gwyn ger Bwlch Derwin yn 616 O.C., er na ellir profi hynny - roedd y tir wedyn yn eiddo i Abaty Aberconwy a dichon mai cyfeirio at luest yr abaty hwnnw mae'r gair Mynachdy.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Anthony Duncan, The Forgotten Faith: the Witness of the Celtic Saints, (Cheltenham, 2013), t.87