Ystad Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ystad Mynachdy Gwyn yn eiddo i deulu'r Meredyddiaid o'r 16g. ymlaen, ar ôl i Thomas ap Gruffydd ap Jenkin brynu prydles ar drefgordd Cwm gan Syr John Puleston tua chanol y ganrif honno. Parhaodd yr ystad yn eiddo i'r teulu tan 1778 yn ôl pob golwg, ac er bod rhannau ohoni o bosibl wedi eu colli fel gwaddol i rai o ferched y teulu, enillwyd ambell i eiddo yn yr un modd.

Yr Ystad ym 1778

Aeres yr ystad oedd Anna Maria Meredydd, merch yr olaf o'r hen linach wryw, Meyrick Meredydd. Bu farw Anna Maria ym 1828,[1] ond hanner can mlynedd cyn hynny roedd hi wedi gollwng ei gafael ar yr ystad trwy ei morgeisio. Mewn gweithred yn y Llyfrgell Genedlaethol[2] ceir rhestr o'i thiroedd:

PLWYF LLANWNDA

  • Plasty a thiroedd o'r enw Pengwern
  • Lleiniau
  • Geufron
  • Tŷ yn rhos neu Glan yr rhos
  • Gwerglodd Syper
  • Cae fadog
  • Tyddyn Pontfaen neu Tŷ cerrig
  • bwthyn o'r enw Tŷ'n lôn
  • Glan y merllyn neu Glan merllynas

PLWYF CLYNNOG FAWR

  • fferm, tir a mawnog o'r enw Monachdy gwyn
  • Cae Pwsan
  • Cae glas
  • Bron'r erw

PLWYF LLANAELHAEARN

  • Pentre bach
  • Tythyn terfyn y ddaublwy
  • Tyddyn y gors

PLWYF LLANARMON

  • Cefn cynforch neu Cefn cynfor
  • Tyddyn y mab du

PLWYF LLANYSTUMDWY

  • Chwilog fach

PLWYF LLANFIHANGEL Y PENNANT

  • Pant glas
  • Tyddyn y fammaeth
  • bwthyn a thiroedd o'r enw Gadlas

PLWYF BEDDGELERT

  • Hafod lwyfog neu Hafod lwyddog

PLWYF LLANLLECHID

  • Tŷ sclattas
  • Nant graien.

Yr Ystad ym 1830

Mae'n debygol bod y tiroedd hyn i gyd wedi eu trosglwyddo ym 1778 fel rhan o'r broses o godi morgais. Erbyn 1830, roedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg yr arian ar gyfer hyn, sef un Charles Hawkes fel ymddiriedolwr dyn o'r enw Charles Potts, wedi marw ac roedd eu hysgutoriaid wedi derbyn taliad llawn ac yn medru rhyddhau'r tiroedd. Nid yw'n eglur pwy oedd Hawkes a Potts, ond mae'n debyg mai benthyg arian fel trefniant busnes heb unrhyw gysylltiad â theulu Anna Maria Mostyn (Meredydd gynt) oedd y ddau hyn. Roedd Anna Maria wedi marw ddwy flynedd ynghynt, ond nodir mewn trawsgludiad (sef dogfen gwerthu) ym 1830, ei bod hi wedi trosglwyddo'r ystad i dri o'i chydnabod a fyddai'n gweithredu fel ymddiriedolwyr.[3] Ymdrinnir â'r un tiroedd â gweithred 1778 a ddisgrifir uchod, ond mae'n werth ailadrodd yr enwau gan fod ambell un yn wahanol:

Ffermydd o'r enw Pengwern, Lleiniau yn rhos, Geufron, Monachdy neu Monachdy Gwyn, Bron yr Erw, Tyddyn y bont faen, Tyddyn Glan y môr, neu Cae'r fadog, Tyddyn terfyn y ddau blwy, Cefn Cynferch neu Cefn Cynfer, Tyddyn y mabdu, Chwilog fach, Pentre bach neu Tyddyn ucha, Tyddyn issa yn moelfre, Tyddyn y Gorse, Tyddyn y posset neu Cae pwssan, Caeglas, Tyddyn Cenin fynydd, Tyddyn y famaeth, Y Gadlis, Tyddyn Robert Morris, Cenin fynydd, Pengwern Griffith Williams, Hafod Lwyddog neu Hafod Lwyfog, Belen Wen, Gwern Saython neu Ty Sclattas, Nant y graien, Cwm Celyn a phedwar llain o dir ynghanol tiroedd Penrhyn, yn nhrefgorddi Llecheiddior, Chwilog, Trefcwm a Nant Hwynen, a phlwyfi Llanwnda, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanarmon, Llanfihangel y Pennant, Llanystumdwy, Beddgelert, Llanllechid, Llandygái a Betws y Coed; a ffermydd o'r enw Glan Merllynas, Tyddyn Syper, Y Gors dopiog, Gwergloedd tan y tŷ, Cae Eithin, Cae Hwlkin, Buarth hwlkin neu Buarth y Rhos, Tŷ yn y Rhos neu Tyddyn y Rhos, llain yn perthyn i hwnnw, sef Llain rhos Pengwern, Cae Canol, y Llwyn Coed, Tŷ yn y lôn neu Tyddyn y lôn, i gyd yn nhrefgordd Pengwern, plwyf Llanwnda, a sedd yn Eglwys Llanwnda a rennir gyda deiliaid Bodaden.[4]

Yr Ystad erbyn 1840

Erbyn 1840 roedd yr ystad wedi ei chwalu, gydag amryw o berchnogion newydd wedi prynu darnau ohoni. Perchennog newydd Monachdy Gwyn, ynghyd â Bron-yr-erw a Chae Glas, oedd Thomas Parry Jones-Parry o Aberdunant, brawd iau Syr Love Parry Jones-Parry, Madryn. Yn achos y Pengwern, roedd wedi cael ei brynu gan ffermwr o'r enw Evan Hughes Pritchard, a gweddill eiddo'r hen ystad a oedd yn perthyn i'r Pengwern wedi ei werthu i hwn a'r llall, ac ambell ran i Thomas Assheton Smith.[5]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t206
  2. LlGC, Gweithredoedd Plas Tregayan 182-3
  3. LlGC, Papurau Henry Rumsey Williams 544
  4. Cyfieithiad yw'r rhestr hon o'r Saesneg wreiddiol
  5. LlGC, Rhestrau pennu'r degwm, plwyf Clynnmog Fawr a Llanwnda.