William Roberts (Gwilym Glasgoed)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Roberts yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974.

Brodor o Benisa'rwaun ac yn un o saith o blant. Aeth i Ysgol Ystrad Meurig yng Ngheredigion ac yna graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942.

1941-44 : Curad Llanwnda gyda Llanfaglan

1944-47 : Curad Blaenau Ffestiniog

1947-54 : Rheithor Llanddona gyda Llaniestyn a chapel preifat Wern yr Wylan

1954-74 : Rheithor Llanaelhaearn

Ymddeolodd 30 Medi 1974 ac aeth i fyw i Derlwyn, Trefor. Yno y bu farw yn 75 oed.

Roedd William Roberts hefyd yn barddoni'n gyson - yn arbennig ym maes yr emyn - a bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith e.e. Emyn Priodas yn Eisteddfod y Barri 1968.

Ei enw barddol oedd Gwilym Glasgoed. Brawd iddo oedd Canon R.D.Roberts, Ficer Llwyngwril, Meirionnydd.

Ni ddylid ei gymysgu efo'r bardd gwlad William Roberts (Gwilym Ceiri).