Griffith G. Jones (Glan Peris)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Griffith G. Jones, a aned ym mhlwyf Llandwrog ym 1859 yn un o'r dynion hynny a gyfrannodd yn helaeth i'w ardal, fel aelod neu arweinydd pwyllgorau lleol a chrefyddol. Bu'n gynghorydd dosbarth am gyfnod rhwng 1894 a 1897. Mabwysiadodd y ffugenw Glan Peris, a bu'n arferol cyfeirio ato fel "G.G. Jones (Glan Peris)". Trodd ei law weithiau at arwain corau mewn cyfarfodydd cystadleuol ac ati, ac roedd yn boblogaidd fel arweinydd cyfarfodydd cyhoeddus.

Ym 1881, roedd yn byw gyda'i ewyrth a'r teulu yn Brynrefail, ger Tanfforddelen, rhwng Y Groeslon a phentref Carmel. Gweithiai y pryd hynny fel chwarelwr. Ym 1891 roedd yn byw yn Brynrefail o hyd, gyda'i wraig Barbara. Yr adeg honno, roedd yn asiant i gwmni yswiriant y Prudential. [1] Rywbryd tua 1897, fe'i penodwyd yn gofrestrydd priodasau a swyddog elusen ("relieving officer") ar gyfer y rhan honno o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon a oedd yn Sir Fôn, a symudodd y cwpl i fyw i Ddwyran. Yr adeg honno, cynhaliwyd cyfarfod i gyflwyno tysteb iddo gan bentrefwyr Carmel a'r cylch:

CARMEL, LLANDWROG. CYFLWYNO TYSTEB.-Nos Lun, yn addoldy Carmel, cyflwynwyd tystebau i Mr G. G. Jones (Glan Peris) a'i briod, ar eu hymadawiad i Fon. Bu Glan Peris a'i briod yn llafurio am lawer o flynyddau yn y cymydogaethau hyn, ac o wasanaeth helaeth mewn pwyllgorau, cyngherddau, &c., ac yn arbenig fel athraw ac athrawes gyda’r plant. Hefyd, bu Glan Peris yn llanw y swyddau o warcheidwad a chynghorydd dosparth dros blwyf Llandwrog, hyd ei ddyrchafiad i fod yn swyddog elusenol a chofrestrydd priodasau yn Mon (Undeb Caernarfon). Y cadeirydd ydoedd y Parch W. Davies (gweinidog), a chymerwyd rhan gan y Cynghorwyr Elias Jones, J. E. Jones, Mri. Griffith Hughes, Pisgah; William Roberts, Brynnaidhir; Richard G. Jones, G. T. Jones, D. W. Humphreys, R. R. Lloyd, ac Ephraim Jones. Cyfeiliwyd gan Mr John William Roberts, Glynllifon.[2]

Aeth ati yr un mor frwdfrydig i chwarae ei ran ym Môn, er iddo geisio dychwelyd i'w ardal enedigol pan hysbysebwyd am swyddog elusennol Llandwrog. Fodd bynnag, gan ei fod yn hŷn na'r oedran a bennwyd i ymgeiswyr yn yr hysbyseb, penderfynwyd peidio â'i gynnwys ar y rhestr fer - er i'r penderfyniad hwnnw achosi cyfarfod ystormus iawn o'r Gwarcheidwaid.[3] Fel y digwyddodd pethau, arhosodd yn ei swydd ynm Môn am weddill ei yrfa.[4]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1881-91
  2. Yr Herald Cymreig, 12.10.1897, t.5
  3. North Wales Express, 12.9.1902, t.8
  4. Yr Herald Cymreig, 11.9.1917, t.4