Thomas Williams (Ap Gwyrfai)
Cymro o Uwchgwyrfai a ymfudodd i swydd Cumberland oedd Thomas Williams (Ap Gwyrfai) (1846-1880). Fe'i ganed ym 1846, y pumed o saith plentyn John Williams, chwarelwr a aned ym 1800, a'i wraig Catherine.[1]
Am flynyddoedd ardal wledig a thenau ei phoblogaeth oedd Millom yn sir Cumbria. Fodd bynnag, yn dilyn darganfod mwyn haearn yno ym 1855, agorwyd gweithfeydd haearn yn y gymdogaeth a thua'r un pryd datblygwyd nifer o chwareli llechi yn yr ardal hefyd. Bu'r rhain yn fodd i ddenu nifer o Gymry o wahanol rannau o'r hen wlad i ymgartrefu yno. Un o'r rhain oedd Thomas Williams, a gymerodd yr enw barddol Ap Gwyrfai. Maged ef yn nhyddyn Tan y fron, Rhostryfan ac ni ddylid cymysgu rhyngddo ag Ap Gwyrfai arall, diweddarach, sef mab i Owen Gwyrfai - Owen Williams o'r Waunfawr. Symudodd Thomas Williams i Cumbria tua 1871 i 1873 gan ymgartrefu ym mhentref bach Ulpha yn nyffryn Duddon. Mae'n bosib mai gwaith yn y chwareli llechi a'i denodd yno. Yn Eisteddfod Gadeiriol Barrow-in-Furness ym 1873 - a oedd wedi ei chyfyngu i Gymry - enillodd Ap Gwyrfai gadair dderw, tlws arian a gwobr ariannol o ddwy bunt a chweugain am bryddest i Abaty Furness. Byddai hefyd yn anfon llawer o adroddiadau am weithgareddau'r Cymry yn Cumbria i'r wasg Gymraeg, megis ei adroddiad i Y Gwladgarwr ym 1875 am gyngerdd mawreddog a gynhaliwyd gan y Cymry yn nhref ddiwydiannol Workington, gyda'r enwog Eos Morlais yn arwain y cyngerdd a chanu fel prif unawdydd. Cymerwyd rhan hefyd gan y Millom Welsh Glee Party. Y cyngerdd hwn ysgogodd sefydlu'r Workington Music Festival sy'n bodoli o hyd.
Erbyn diwedd y 1870au roedd Ap Gwyrfai yn briod â Sarah, nith i Susannah Wilson, sefydlydd achos y Bedyddwyr yn Ulpha. Erbyn hynny roedd wedi cymryd les ar chwarel lechi Common Wood ac yn ei gweithio'n llwyddiannus gyda'i bartner busnes, John Thomas, yntau hefyd yn enedigol o Rostryfan. Roedd y ddau ohonynt yn cymryd rhan amlwg ym mywyd cymdeithasol Ulpha, gan gynnal cyngerdd Nadolig i holl drigolion y pentref ym 1879 gyda chaneuon ac adroddiadau Cymraeg wedi'u cyfieithu ar gyfer cynulleidfa a oedd bron yn uniaith Saesneg. Ond y flwyddyn ganlynol bu trychineb. Gyda'i wraig yn feichiog, boddwyd Thomas Williams mewn llyn yn chwarel Common Wood yn 35 oed. Daeth nifer fawr o Gymry Cumbria i'w angladd yn Ulpha. Ganwyd ei ferch, Tamar Catherine, fis wedi'r angladd a bu Sarah Williams yn weddw am 16 mlynedd cyn ailbriodi.[2]