David Davies (Tremlyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a hynafiaethydd oedd David Davies, a fabwysiadodd yr enw barddol "Tremlyn". Roedd yn fab i Dafydd a Jane Davies o Gae'r Ffridd, Y Groeslon. Symudodd y teulu'n fuan i Dal-y-sarn, ger Chwarel Dorothea, lle bu David a'i frodyr yn chwarelwyr. Fodd bynnag, yn dilyn damwain pan oedd yn ifanc, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith fel chwarelwr a bu am gyfnod yn Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog. Wedi hynny cafodd swydd yn gyfrifydd yn Chwarel Pen-yr-orsedd, ac yna yn swyddfa'r chwarel yng Nghaernarfon, lle bu tan iddo ymddeol.

Dywed Myrddin Fardd iddo gyfansoddi nifer dda o englynion, toddeidiau a chywyddau ac iddo ymddiddori'n helaeth mewn achau a hynafiaethau. Bu farw fis Hydref 1901 a'i gladdu yn Llanwnda ar y 24ain o'r mis hwnnw.[1]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.24.