Robert Jones (Callestr Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd gwlad a cherddor oedd Robert Jones (Callestr Fardd) (1795-1866) a hanai'n wreiddiol o Dremeirchion,[1] lle bu ei dad yn athro ysgol ac yn biler yr achos Calfinaidd. Fe'i prentisiwyd yn of alcam. Ar ôl cyfnod ym Manceinion, lle'r aeth (yn ôl coffád i'w fab yn Y Geninen) yn gaeth i alcohol, ymunodd â'r fyddin tua 1813 a chael ei yrru i Ffrainc. Ar ôl dychwelyd o Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel, dihangodd o'r fyddin a symud (er mwyn cuddio oddi wrth yr awdurdodau) i dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog, rywbryd tua 1817. Tra'n byw yno, cyfarfu a'i wraig Anne Williams (1796-1861), merch yn wreiddiol o dref Caernarfon, gan ei phriodi fis Hydref 1824.[2] Roedd Anne yn wraig weddw tua blwyddyn yn iau nag ef. Buont yn byw yn Llandwrog am flwyddyn neu fwy cyn symud i Gaernarfon wedi i'w mab hynaf John Jones (Vulcan) gael ei eni. Symudodd y teulu wedyn i Fethesda, lle bu'n aelod o'r gymuned farddol, a bu'n arwain corau a bandiau. Ymysg ei ddoniau oedd ei allu i siarad Ffrangeg oherwydd ei amser yn y fyddin. Roedd yn medru chwarae'r ffliwt a'r cornet yn rhagorol. Treuliodd saith neu wyth mlynedd yng Nghorris hefyd cyn symud yn ôl i Fethesda rywbryd cyn 1860.[3]

Un darn o'i waith sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Cân newydd : ar yr achlysur o farwolaeth tair o ferched ieuainc yn yr Acr fair, swydd Ddinbych, Mawrth 14, 1830, trwy ddarfod i wal y safent arni gilio oddi tanynt, a'u gollwng hwy i danllwyth mawr o dân, sef Mary Howell, yn 12 oed, Mary Hughes yn 15, a Mary Jones yn 18 / R. Jones, C-ll-str F-r-dd. Fe'i hargraffwyd yng Nghaerfyrddin tua 1831.[4]

Bu farw yn 70 oed yng Nghaellwyngrydd, Bethesda, ar 16 Ionawr 1866 . Mae hysbysiad o'i farwolaeth yn Yr Eurgrawn yn nodi ei fod yn fardd a arbenigai yn y mesurau caeth pan yn ifanc. Roedd yn aelod selog ac yn flaenor gyda'r Wesleaid.[5] Ysgrifennodd ei fab, Vulcan, fywgraffiad byr iddo sydd yn cofnodi prif ffeithiau ei fywyd.[6]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllechid, 1851
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr priodasau plwyf Llanbeblig 1824
  3. Y Geninen, 1.3.1890, tt.20-3; Yr Eurgrawn Wesleyaid, t.277
  4. Catalog y Llyfrgell Genedlaethol, cyrchwyd 1.3.2025
  5. Yr Eurgrawn Wesleyaidd, Mawrth 1866, t.128
  6. John Jones (Vulcan), Bywgraffiad fy Nhad yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd, Gorffennaf 1875, tt.265-9