John Jones (Vulcan)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gweinidog gyda'r Wesleaid, bardd ac awdur oedd John Jones (Vulcan) (1825-1889). Fe'i ganed ar dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr) 1825. Roedd ei dad, Robert Jones, yn fardd gwlad ac yn arddel yr enw barddol 'Callestr Fardd'. Yn fuan ar ôl geni Vulcan, symudodd y teulu i Gaernarfon ac wedyn i Fethesda. [1] Yno, fe ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r achos Wesleaidd. Ychydig o addysg gynnar a gafodd John Jones, ond diwylliodd ei hun i raddau helaeth a chafodd dymor o addysg yn y Coleg Normal yn Abertawe. Ar ôl iddo ddechrau pregethu yng Nghorris a chael ei ordeinio'n weinidog gyda'r Wesleaid bu'n gweinidogaethu mewn sawl cylchdaith Wesleaidd yng ngogledd a chanolbarth Cymru ac yn Lerpwl. Ymddeolodd ym 1887 a bu farw ar 17 Rhagfyr 1889. Wedi iddo symud o Landwrog yn blentyn ifanc iawn, ni fu'n byw o fewn ffiniau Uwchgwyrfai.

Ymddiddorai mewn barddoniaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, ond athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei hoff feysydd ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i gyfnodolion ei gyfnod. Yn ogystal cyhoeddodd rai cyfrolau, megis Traethawd ar Resymeg 1857 a Penarglwyddiaeth Duw 1873. Bu'n olygydd y cyfnodolyn Y Winllan 1870-73 a bu ar fwrdd golygyddol Y Gwyliedydd.[2]

Cymerodd John Jones enw urddasol iawn fel enw barddol/llenyddol, sef Vulcan, duw tân y Rhufeiniaid. Ym mytholeg Rhufain roedd Vulcan yn curo haearn ar ei engan yn dragwyddol gan greu cawodydd o wreichion ac fe'i hanfarwolwyd mewn darluniau gan rai o arlunwyr mawr y byd, megis Tintoretto a Velázquez. Tybed beth a barodd i John Jones o Landwrog gymryd (neu gael) y fath enw. Tybed a all rhywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd daflu goleuni (neu wreichion) ar hyn?

Cyfeiriadau

  1. Ishmael Evans, Vulcan yn Y Geninen, 1.3.1890, tt.20-5. Mae'r erthygl goffa hon yn werthfawr fel trosolwg o waith Vulcan.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.454. Erthygl gan Griffith Thomas Roberts. Mae ambell i ffaith, megis enw ei dad, yn anghywir yn yr erthygl.