Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 58: Llinell 58:
Roedd angen dull o gludo llechi neu wastraff chwarel y tu hwnt i'w ffinau ar nifer o'r chwareli. Bu rhai chwareli'n rhannu'r cyswllt rhwng eu tir nhw â thomennydd ar y comin, i lawr yr incleins neu at un o'r ddwy reilffordd a gludai llechi ar eu ffordd at y porthladd - Rheilffordd Nantlle, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Cysylltwyd y lein olaf honno gyda thraciau'r maes chwareli trwy inclein rhwng [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn]] a'r man a elwid yn "Drumhead", lle 'roedd y gêr weindio i ollwng gwagenni i lawr y llethr yn araf trwy ddefnyddio weiren drwchus.
Roedd angen dull o gludo llechi neu wastraff chwarel y tu hwnt i'w ffinau ar nifer o'r chwareli. Bu rhai chwareli'n rhannu'r cyswllt rhwng eu tir nhw â thomennydd ar y comin, i lawr yr incleins neu at un o'r ddwy reilffordd a gludai llechi ar eu ffordd at y porthladd - Rheilffordd Nantlle, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Cysylltwyd y lein olaf honno gyda thraciau'r maes chwareli trwy inclein rhwng [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn]] a'r man a elwid yn "Drumhead", lle 'roedd y gêr weindio i ollwng gwagenni i lawr y llethr yn araf trwy ddefnyddio weiren drwchus.


Ymysg y traciau neu ganghennau hyn, a dueddai fod yn weddol hir, ceid [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]], [[Tramffordd Alexandria]]. [[Tramffordd Moel Tryfan]], [[Tramffordd y Fron]] a Rheilffordd Tal-y-sarn a elwid yn aml yn [[Tramffordd John Robinson|Dramffordd Robinson]]. <ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236</ref>
Ymysg y traciau neu ganghennau hyn, a dueddai fod yn weddol hir, ceid [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]], [[Tramffordd Alexandra]]. [[Tramffordd Moel Tryfan]], <ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire’’, Cyf. 1  (Oakwood, 1988), t.206</ref> [[Tramffordd y Fron]] a Rheilffordd Tal-y-sarn a elwid yn aml yn [[Tramffordd John Robinson|Dramffordd Robinson]]. <ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:22, 15 Ionawr 2024

Roedd nifer sylweddol o dramffyrdd yn chwareli llechi Dyffryn Nantlle, a hynny o ddechrau’r 19g. hyd nes i’r chwareli gau neu symud i ddefnyddio lorïau yn y 1960au.

Y Dechreuad

Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd i ddatblygu cynhyrchu llechi ar gomin Cilgwyn tua diwedd y 1790au oedd grŵp o ddynion lleol, John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts. Cawsant brydles gan y Goron, ac mae cofnod eu bod, gryn amser cyn 1810, wedi gosod tramffordd neu “railroad” yn chwarel Fein-goch ar Fynydd Carmel, er mwyn cludo sbwriel i’r domen.[1] Dyma, o bosibl, y sôn cyntaf am gledrffordd o unrhyw fath yn y dyffryn, ac mae’n tystio i fuddsoddiad o gyfalaf ac o gynhyrchu llechi ar raddfa ddigonol fel bod angen harneisio manteision olwynion metel ar gledrau i gludo’r gwastraff ymaith. Prif rinwedd rhedeg cerbyd ar hyd cledrau, yn hytrach nag ar hyd ffordd, yw’r modd y gellir sicrhau lleihad yn y ffrithiant rhwng olwyn a llawr, ac oherwydd hynny, mae angen llai o rym i symud llwythi trwm.

Erbyn 1813, a’r diwydiant llechi’n tyfu, cafwyd sôn y byddai rheilffordd yr holl ffordd o’r dyffryn i’r cei yng Nghaernarfon yn lleihau costau ac, ar ôl degawd o oedi a thrafod, aethpwyd ati i adeiladu Rheilffordd Nantlle, a agorwyd ym 1828. Roedd y rheilffordd hon yn bur arloesol – er yn gyntefig i’n llygaid ni heddiw – a gosodwyd y cledrau gyda 3’ 6” o led rhyngddynt. Roedd nifer o chwareli’r dyffryn yn defnyddio’r lein i anfon eu llechi i’r porthladd, a datblygwyd nifer o ganghennau oddi ar draciau’r cwmni rheilffordd i diriogaeth y gwahanol chwareli, lle gellid eu llwytho, ac yn y man ymestynnwyd y traciau i gyfeiriad wyneb y graig.

Lled

Roedd traciau llydan yn gallu cludo mwy o lwyth mewn gwagenni mwy o faint. Serch hynny, roeddynt yn galw am fwy o dir i’w hadeiladu, ac roeddent yn fwy costus. Adeiladwyd Rheilffordd Nantlle gyda lled o 3’ 6” gan ei bod yn arloesol ac nad oedd unrhyw safonau wedi eu datblygu, a’r adeiladwyr felly’n medru dewis y cyfaddawd gorau rhwng effeithlonrwydd a chostau.

Fel yr aeth y ganrif ymlaen, a’r chwareli’n tyfu’n fwy ac yn fwy cynhyrchiol, bu mwy o angen am gael wagenni a thraciau’n agosach at ymyl y graig, lle nad oedd cymaint o le. Lle'r oedd angen mynd dan ddaear, roedd wagenni llai’n medru mynd i leoedd cul a chyfyng. Yn gynyddol, datblygodd mwy a mwy o dramffyrdd bach o fewn chwareli gyda lled o 2’ 0” (neu, weithiau, 1’ 11½”), y lled mwyaf cyffredin ar gyfer y diwydiant llechi. Ar ôl 1877, pan agorodd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ei lein i’r Bryngwyn, datblygodd system sylweddol yn cysylltu chwareli’r tir uchel o gwmpas Moel Tryfan ac ardal Y Fron. Achosodd yr angen am dramffyrdd cul ar hyd y ponciau, i ben draw’r tomennydd ac i mewn i’r melinau beth anhawster i chwareli llawr y dyffryn oedd yn allforio eu cynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle a hynny yn eu gwagenni llydan eu hunain. Ceid sawl enghraifft felly o chwareli lle'r oedd y tramffyrdd mewnol yn 2’ o led ond bod rhywfaint o draciau 3’ 6” rhwng y felin neu waelod inclein a’r rheilffordd gyhoeddus.

Tramffyrdd a changhennau 3’ 6” o led

Roedd y rhain yn gysylltiedig yn bennaf â chwareli llawr y dyffryn, ac yn tueddu i gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf yn gynharach yn y ganrif na thramffyrdd 2’ 0” o led. Nid oedd ffynhonnell rwydd ar gyfer prynu injans stêm ar gyfer traciau 3’ 6”, ac ni ddefnyddid injans stêm o gwbl ar y brif lein, a hynny dros gyfnod o bron i 140 o flynyddoedd. Haws oedd i’r chwareli ddefnyddio ceffylau fel y gwneid ar y brif lein i Gaernarfon.

Dyma restr o’r chwareli lle roedd traciau 3’ 6” i’w cael - yn rhannol neu’n unig:

Tramffyrdd 2’ o led

Y lled arferol ar gyfer tramffyrdd y chwareli nad oeddynt yn cysylltu â Rheilffordd Nantlle oedd 2’ (neu weithiau 1’ 11½ ”) er mae’n bur sicr bod y cledrau yn symud yn aml a bod cryn wahaniaeth yn y lled, yn arbennig lle roedd traciau dros dro’n cyrraedd pen draw tomen neu ben draw ponc.

2’ (neu rywbeth tebyg) oedd y lled arferol ar draws Eryri. Yn Uwchgwyrfai, ac ardaloedd Dyffryn Conwy, Penrhyn a Llanberis, roedd y lled 2’ yn y chwareli llechi i gyd. Roedd tramffyrdd y mwynfeydd a'r chwareli ithfaen yn Llŷn a Phenmaenmawr yn bod â chledrau tua 3’ neu fwy oddi wrth ei gilydd, ond 2’ oedd y lled yng chwareli ithfaen Uwchgwyrfai i gyd. Mantais y safoni hyn oedd y gallu i symud gwagenni ac injans o’r naill chwarel i’r llall, os neu bryd y byddai asedau chwarel oedd yn cau yn cael eu gwerthu.

Diddorol hefyd yw sylwi mai 1’ 8” oedd y tramffyrdd yng ngwaith Drws-y-coed – sydd yn tueddu i awgrymu mai dylanwadau peirianyddol hollol wahanol oedd ar waith yn y fan honno, a’r dewis o led (efallai) wedi dod i’r dyffryn gyda fwynwyr o Gernyw neu Ynys Manaw.

Dyma restr o chwareli llechi mwyaf Uwchgwyrfai lle defnyddid traciau 2’:

Mae’r awdur J.I.C. Boyd hefyd yn credu mai traciau 2’ o led oedd yr ychydig o draciau o’r graig i’r felin a ddefnyddid yn yr holl chwareli bach ar lethr ddeheuol y dyffryn megis Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd a Chwarel Gwernor (heblaw am Chwarel Fronheulog a’r chwareli oedd yn gysylltiedig â honno). Systemau bach digyswllt oedd y rhain.

Pŵer

Nid oes cofnod o unrhyw injan yn tynnu gwagenni ar hyd y tramffyrdd 3’ 6”. Defnyddid dim ond ceffylau, heblaw am ychydig fisoedd ar ddiwedd oes Rheilffordd Nantlle yn y 1960au pan ddefnyddid tractor. Roedd nifer o’r chwareli oedd â chledrau 2’ yn defnyddio injans stêm. Roedd y rhain o ddau fath, rhai confensiynol a brynwyd fel rheol oddi wrth ffatrïoedd yn Lloegr, megis Hunslet a Bagnall; a rhai o’r cyfnod cynnar a wnaed yn ffatri de Winton yng Nghaernarfon. Roedd y rhai olaf hyn yn nodedig gan fod eu bwyleri’n fertigol yn hytrach na llorweddol. Roedd Chwareli Cilgwyn, Moel Tryfan, a Phen-yr-orsedd wedi prynu injans disel neu betrol fel ychwanegiadau at eu fflyd o injans stêm fel yr oedd y rheiny’n heneiddio, a hynny yn y 1930au.[2]

Traciau cyswllt

Roedd angen dull o gludo llechi neu wastraff chwarel y tu hwnt i'w ffinau ar nifer o'r chwareli. Bu rhai chwareli'n rhannu'r cyswllt rhwng eu tir nhw â thomennydd ar y comin, i lawr yr incleins neu at un o'r ddwy reilffordd a gludai llechi ar eu ffordd at y porthladd - Rheilffordd Nantlle, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Cysylltwyd y lein olaf honno gyda thraciau'r maes chwareli trwy inclein rhwng Gorsaf reilffordd Bryngwyn a'r man a elwid yn "Drumhead", lle 'roedd y gêr weindio i ollwng gwagenni i lawr y llethr yn araf trwy ddefnyddio weiren drwchus.

Ymysg y traciau neu ganghennau hyn, a dueddai fod yn weddol hir, ceid Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, Tramffordd Alexandra. Tramffordd Moel Tryfan, [3] Tramffordd y Fron a Rheilffordd Tal-y-sarn a elwid yn aml yn Dramffordd Robinson. [4]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Porth-yr-aur 27375, 27523, dyfynnwyd gan Jean Lindsay, op. cit., tt.75-6.
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.229-46
  3. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.206
  4. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236