Chwarel Braich-rhydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o'r chwareli llai ar Foel Tryfan oedd Chwarel Braich-rhydd, er mai dyma oedd chwarel gyntaf ardal Moel Tryfan, gan iddi fod ar waith mor gynnar â 1787. Fe'i datblygwyd i ddechrau yn y darn a elwir yn Chwarel yr Hen Fraich. Dim ond 30-40 o ddynion a weithiai yno yn ystod hanner cyntaf y 19g. ac, erbyn 1859, adroddwyd fod y twll yn llawn dŵr. Ym 1831, daeth y perchnogion, (Cwmni Cilgwyn) i ben. Ym 1852, cymerwyd y chwarel gan Charles Curling, Llundeiniwr oedd am fuddsoddi ei gyfalaf yn y lle. Erbyn 1864 dim ond 5 o ddynion oedd yn gweithio yno, ac ni chynhyrchwyd ond 34 tunnell o lechi.[1][2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt221-5.
  2. Mae hanes mwy diweddar yn erthygl Chwarel y Braich.