Chwarel y Braich
Chwarel lechi ar lethrau deheuol Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.
Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac ym 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (a ddaeth yn Braich-rhydd). Roedd dan reolaeth Charles Curling o 1856 hyd 1868, pan aildrefnwyd parseli tir ar dir y Goron ar Foel Tryfan a chymerodd Hugh Beaver Roberts (twrnai o Fangor, ac un o gyfarwyddwyr Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a fyddai, maes o law, yn gwasanaethu Chwarel y Braich yn anuniongyrchol)[1] reolaeth dros y lle, gan fasnachu dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Arhosodd y prif asiant ers dyddiau Curling, sef Thomas Turner, nes i hwnnw fawr ym 1873.
Cafodd ei datblygu yn yr 1870au, gan grynhoi gweithgaredd mewn un twll mawr gyda thair lefel a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, Owen Griffith Owen (Alafon) y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein Tramffordd John Robinson er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd Rheilffordd Nantlle. Wedi hynny, defnyddid Tramffordd y Fron. Ar ôl y cyfnod hwnnw, defnyddid nifer o injans stêm ar dramffyrdd o fewn y chwarel.[2] Roedd y chwarel ar ei hanterth ym 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno. Fodd bynnag, bu dirywiad cyflym, yn rhannol oherwydd cyflwr y fasnach lechi ac yn rhannol oherwydd problemau daearegol a wnaeth y llechen yn anodd i'w gweithio, ac yn amrywiol o ran lliw gyda llawer o smotiau o liw gwahanol trwyddi. Ar yr adeg hon, gweithiwyd y chwarel ar y cyd â Chwarel Coedmadog ond aeth honno hefyd trwy gyfnod anodd oherwydd llifogydd ac ati. Am ddegawd hyd 1900 amrywiai'r gweithlu rhwng 40 a 70, er bod y chwarel ers 1890 wedi bod yn rhan o chwareli John Robinson. Yn ystod streic y Penrhyn, dan fab John Robinson, Tom, cynyddodd y gweithlu i 80 a mwy, gyda chynnyrch o oddeutu 1700 tunnell y flwyddyn. Ym 1904, unodd Tom Robinson ei ddiddordebau chwarelyddol yn Chwarel Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt mewn un cwmni, Cwmni Chwareli Llechi Tal-y-sarn Cyf.
Ym 1908, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Chwareli Llechi Braich newydd, Cyf. ond er buddsoddi mewn offer modern a chychwyn yn obeithiol, cafwyd cwymp mawr yn y chwarel, gan guddio rhai o'r ponciau ar waelod y twll. Roedd wedi cau erbyn diwedd 1911, er i waith ysbeidiol fynd ymlaen yno hyd y 1930au.[3] Wedyn aeth tir y chwarel dan reolaeth cwmni a gafodd hawl dros y mynydd i gyd, ac ym 1930 ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Sir Gaernarfon y Goron, Cyf. (Caernarvonshire Crown Slate Quarries Ltd.) ond ni wnaed unrhyw ymdrech i ail-agor y Braich. Bu cryn waith ar adfer llechi o'r tipiau a'u trin, ac aeth y gwaith hwnnw ymlaen o dro i dro hyd mor ddiweddar â 1963.[4]