Tramffordd John Robinson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron, gan ffurfio cyswllt efo traciau Rheilffordd Nantlle ger Tal-y-sarn, er mwyn hwyluso cludo'r llechi i'r cei yng Nghaernarfon; ac, wedi i'r gangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle agor, ar hyd y lein fawr honno at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn Dramffordd Fron a Thal-y-sarn neu Reilffordd Tal-y-sarn.[1]

Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb ymyrryd â buddion cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd rhyw filltir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn a chysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Y disgwyliad oedd y byddai'r fenter yn costio £1850, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'n sylweddol y gost o gludo llechi i Gei Caernarfon.

Yn y pen draw, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant ger Caernarfon a'r Cei).[2] Wedi ei chwblhau, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, gan redeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref Y Fron,[3] wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[4] heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn a chyrraedd yr incléin.[5] Tynnid y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).[6][7]

Wedi iddi agor, gwelodd Hugh Beaver Roberts, prif berchennog Chwarel Braich rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen, a agorwyd 1871-2, [8]o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd. Trefnwyd y byddai Roberts yn darparu ei geffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o'r Fraich.[9]

Byrhoedlog fu oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd Tramffordd y Fron, ar led o 2', i gludo cynnyrch y chwareli at ben uchaf Inclein Bryngwyn, ac o'r pwynt hwnnw rhedai'r wagenni ar hyd cledrau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru i orsaf Cyffordd Dinas.[10]; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.[11]


Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.248, 250
  3. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.190-1
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
  5. Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9
  6. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.250;
  7. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
  8. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
  9. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.91-2
  10. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 250
  11. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124