Y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Golygfa o'r Fron. Llun:Chris Andrews

Mae Y Fron yn bentref chwarelyddol ym mhen uchaf plwyf Llandwrog. Fe'i elwir weithiau'n Cesarea ar ôl y capel sydd yno - a Cesarea oedd wastad ar fleind cyfeiriad y bysiau a wasanaethai'r pentref. Enw arall am yr ardal hon yw Llandwrog Uchaf. Ardal o dir comin agored yn perthyn i'r goron oedd yma nes i'r chwareli ddatblygu, sef (yn bennaf) Chwarel Braich a Chwarel y Fron. Bu yma ysgol tan 2016 pan unwyd ysgolion y cylch dan enw Ysgol Gynradd Bro Llifon mewn adeilad newydd yn Y Groeslon; y mae bwriad wedi ei wireddu i droi'r adeilad yn ganolfan i'r gymuned leol, gyda siop a chaffi. Bellach mae pob siop arall yn y pentref wedi cau, er ar un adeg oedd nifer yma: siop gyffredinol, cigydd (a lladd-dŷ), barbwr, siop sgidiau, siop dillad.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma