Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru oedd teitl crand ac uchelgeisiol y lein a agorwyd ym 1877 rhwng Dinas a Bryngwyn gyda changen ar hyd Dyffryn Gwyrfai hyd at Ryd-ddu, neu South Snowdon fel y gelwid yr orsaf yno er mwyn ceisio denu cerddwyr a thwristiaid. Charles Easton Spooner oedd peirannydd ymgynghorol y lein. Yn gychwynnol, y lein i'r Bryngwyn oedd y bwysicaf, gan fod yno oedd y chwareli mwyaf cynhyrchiol, ac felly mwyafrif y traffig, ond cyn hir, daeth lein y Bryngwyn i gael ei hystyried yn gangen, a'r lein i Waun-fawr a'r Rhyd-ddu yn grif lein y cwmni. Bu sôn am ymestyn i Feddgelert, Betws-y-coed a hyd yn oed Corwen ond ni ddaeth dim o'r breuddwydion hyn.

Roedd y cwmni mewn trafferth erbyn yr 20g, ac ataliwyd gwasanaethau rheolaidd ym 1916. Fe gymerodd cwmni newydd, Rheilffordd Ucheldir Cymru, holl asedau a cherbydau'r cwmni drosodd, gan ail agor ym 1923 yr holl ffordd i Borthmadog - ond eto byr fu'r llewyrch, ac fe gaewyd y lein ym 1937, wedi cyfnod yn nwylo'r derbynwyr.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma