Charles Easton Spooner
Roedd Charles Easton Spooner (1818-1889) yn drydydd mab James Spooner, peiriannydd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog. Cafodd Charles Easton ei eni ym Maentwrog, gan symud cyn 1841 i Morfa Lodge, Porthmadog. Am weddill ei oes, bu'n byw yn Meddgelert ac wedyn mewn tai sylweddol ym Mhorthmadog. Cafodd ei hyfforddi fel peiriannydd sifil trwy weithio dan Joseph Locke ac Isambard Kingdom Brunel, dau o gewri oes aur adeiladu rheilffyrdd ym Mhrydain. Cafodd ei benodi gan ei dad yn drysorydd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ym 1847 ac yn ysgrifennydd y cwmni ym 1856. Bu'n dal y swyddi hyn ac yn gweithredu hefyd fel peiriannydd hyd 1887. Yn ogystal â hyn, roedd yn gwneud gwaith arall trwy gwmni'r teulu, Spooner a'u Cwmni.
Er mai Saeson oedd teulu Spooner, ac er iddo briodi â Saesnes o Firmingham, prin nad oedd yn gallu'r Gymraeg - roedd llawer o weithwyr y lein yn uniaith Gymraeg.
Roedd ei gysylltiadau ag Uwchgwyrfai yn ddeublyg o leiaf: roedd yn un o gyfranddalwyr Cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon (yn ogystal â bod yn beiriannydd y cwmni) yn yr 1860au.[1] Wedi hynny, bu hefyd yn beiriannydd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a agorodd ym 1877, gyda'r gweithdai a phencadlys yng Ngorsaf Dinas, Llanwnda.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma