Rheilffordd Ucheldir Cymru

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni newydd a gorfforwyd ym 1922 oedd Rheilffordd Ucheldir Cymru (neu'n swyddogol, Welsh Highland Railway Company). Fe gymerodd y cwmni y lein drosodd o Gyffordd Dinas hyd Rhyd-ddu (neu South Snowdon) ynghyd â Changen Bryngwyn, gan ymestyn y lein yr holl ffordd i Borthmadog, gan ymgyrffori rhan o Dramffordd Croesor a rhai darnau eraill o dramffyrdd yn ardal Beddgelert. Prif fwriad y cwmni oedd manteisio ar y twristiaid a oedd yn dod yn fwyfwy i Eryri, er iddynt hefyd ddrparu gwasanaethau nwydau ac, yn y dechrau, gwasanaethau gydol y flwyddyn i deithwyr lleol. Fodd bynnag, aeth i gwmni i drybini ariannol, a chymerodd Rheilffordd Ffestiniog brydles ar y lein ym 1932. Ar ôl hynny, gwasanaethau amfynych yn yr haf oedd y drefn. Caewyd yr holl lein i deithwyr ym 1936 ac ar gyfer nwyddau ym 1937. Roedd gan y Cyngor Sir, ymysg eraill, debentures a roddai hualau ar reolaeth weinyddol y cwmni, ac felly ni ddiddymwyd y cwmni o gwbl, gan ei gwneud hi'n bosibl i Gwmni Rheilffyrdd Ffestiniog ddod i gytundeb â'r Cyngor Sir a'r gweinyddwyr mor ddiweddar â'r 1990au, ac ailadeiladu'r lein.