Categori:Tramffyrdd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae dwy ystyr i'r gair Tramffordd. Yn y trefi mawr, arferid gosod tramffyrdd i gludo pobl mewn tramiau (rhai deulawr yn aml) ar hyd y strydoedd. Yng Ngogledd Cymru, digwyddai hyn yn LLandudno a Bae Colwyn, ac yn Wrecsam.

Ystyr hŷn, a'r ystyr briodol ar gyfer Uwchgwyrfai, yw rhesi o gledrau a osodwyd i hwyluso symud llwythi trymion, fel arfer llechi, mwynau neu ithfaen. Arferid defnyddio ceffylau, er tua diwedd y 19g, dechreuwyd defnyddio injans stêm ar rai o'r tramffyrdd mwyaf.